Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YTb ID^Ô.3Sr OLTGIAETH Mr. W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. 6YFR0L III. RHIF 25. IONAWR, 1880. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Coleg Cerddorol Aberystwyth ......... Cymdeithas y Cerddorion ......... Mbdion o'r Brif Ddinas ............ Bywgraffiadau Byrion— Y diweddar Lenor, Bardd, a Cherddor, Mr. D. Bnallt Jones ............ Nodion o Lanau y Mersey............ Y "Messiah " yn Birkenhead a Llanelli Briton Ferry.................. Cerddoriaeth— Gorphwysgan er Coffadwriaeth am y diweddar D. Buallt Jones, Llwyncus......... Poblogrwydd Tonau ............ Teatyn Cadair Gerddorol Conwy.—Beirniadaeth Dr. Joseph Parry............... Hysbysiadau.................. Nid oes hawl gan neb gyhoeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Ysöol heb ganiatad, new ynte gydnabod obalty cymerir hwy. COLEG CERDDOROL ABERYSTWYTH. (Ábtrystwyth Academy of Music). Mae yn wybodus bellach mai nid yr " Unẁersity College of Wales " a feddylir wrth yr " Academy of Music." Bwriwyd y gangen yma, sef " Cerddoriaeth," allan o'r Boyal School, fel un annheilwng o'i has- tudio wrthi ei hun, heb gael Latin a Greeh i'w dal hi i fyny, megys i fod yn deilwng o efrydiaeth. Ond nid hir y bu y golomen yma cyn cael lle i roddi ei throed i lawr, er ei bod wedi ei hamddifadu o'i breintiau, am a wyddom ni. Mae scholarships at wasanaeth y gangen yma, ond pa le y maent? Carem weled rhywun neu rywrai yn dyfod trosodd i'n cymhorth yn y cyfeiriad a nodwyd. Ond afc y cyngherdd. Hwn oedd yr unfed cyng- herdd ar bymtheg i'r myfyrwyr ei gynal ar derfyn y gwahanol dymhorau, dan arweiniâd ein hathraw. Er fod y gangen yma wedi ei thori oddiwrth y bôncyff a'i thaflu i'r ffos megys, eto i gyd y mae yn tyfu fel cangen yr helygen ; y mae cyn- wys y rhaglen awd drwyddi nos y cýngherdd yn dangos hyny. Yr oedd y gwahanol ddarnau wedi eu dewis fel ag i gynrychioli y gwahanol feistri, megys Handel,Beethoven, Bach, Mozart,Rossini, Mendelssohn, Haydn, Schumann, Schu- bert, Gluck, Wagner, Bennett, Pergolesi, Dussek, Weber, a Dr. Parry. Chwareuwyd amryw movements anhawdd o eiddo y gwa- hanol awdwyr yn feistrolgar iawn gan amryw o'r myfyrwyr, yr hyn sydd yn dangos y llafur a'r gofal y mae eu hathraw medrus wedi myned iddo. Caf- wyd dadganiad chwaethus o " Cujus Ánimam" gan Mr. D. Davies, Cincinnatti, America. Bydd y cyfaill yma yn sicr o adlewyrchu clod i'w athraw yn ngwlad y Gorllewin. Gwnaeth ei ran yn ogon- eddus. Cafwyd dadganiad meistrolgar o'r " Adelaide " gan y cyfaill T. Evans, Abercenffig. Mae ef eisoes yn bur ad- nabyddus fel canwr, fel na raid ond yn unig ei enwi, yr hyn fydd yn ddigon o brawf fod yno ddadganiad da. Cyn y bydd i'r llinellau yma i ymddangos, bydd wedi cymeryd rhan bwysig yn nghaniad- aeth y gwyliau yn Abertawe. Cafwyd dadganiad campus eto gan Mr. Salisbury, Abertawe, o " 'Tis jolly to hunt." TJn o fechgyn y douhle C ydyw ef—bachgen yn deilwng o'r enw "Basser." Yr olaf wnawn ei grybwyll yn bresenol ydyw Mr. John Williams, Ebbw Yale. Cafwyd dadganiad ganddo ef o " RolHng in Foaming Billows/' Bydd proffwydol- iaeth Mozart am Beethoven yn debyg o gael ei wirio yn y bachgen hwn, sef, " This youth will some day make a noise in the world." Terfynwyd y cyngherdd drwy ganu " Give Glory to God" (Dr. Parry), gan y myfyrwyr, yn cael eu cynorthwyo. Cafwyd cyngherdd campus. Da genym gael ar ddeall fod y Dr. yn penderfynu codi y sefydliad yma yn deilwng o Gymro, Cymru a Chymraeg, gydag ychydig o gefnogaeth eto oddiar law ei gyd-genedl. * * Yr ydym yn rhoddi y lle blaenaf, y niis hwn, i weithrediadau y Coleg Cerddorol gan Dr. Parry, am y credwn fod y sefydliad