Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1111 Gfó «II. (ftbe Cambrían XCemperance Cbronícle.) Cyf. l.-Rhif 6. TACHWEDD, 1891. PRIS CEINIOG. Y PARCH. JOHN THOMAS, D.D., LIYERPOOL. R mai bechan yw ein gwlad, y raae wedi magu glewion sydd wedi gadael eu har- graíf yn annileadwy er daioni ar gym- deithas ; a thywysog yn mhlith tywysogion Cymru yw y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool. Daeth i amlygrwydd mawr yn gynaryn ei fywyd cyhoeddus fel pregethwr o'r radd flaenaf,'ac y mae yn aros hyd heddyw fel cedrwydden hardd yn ogoniant ac yn fendith i'n gwlad. Ac er ei fod yn bresenol tua 70 mlwydd oed, y mae yn ymddangos yn " gryf fel derw," ac yn hollol ddi- flin yn nghanol y gwaith mawr a gyflawna mewn gwahanol gylchoedd. Ganwyd ef yn y flwydd- yn 1821, yn Nghaergybi, un o brif drefydd Mon, mam Cymru; ac yno hefyd y ganwyd ei ddiw- eddar frawd enwog, y Dr. Owen Thomas, Liverpool. Dechreuodd bregethu yn Mangor yn 1839, yn yr eglwys oedd y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol Dr. Arthur Jones. Der- byniodd ei addysg yn Marton, sir Amwythig, ac yn Athrofa Ffrwdyfal, sir Gaerfyrddin. Cylch cyntaf ei weinidogaeth oedd Bwlchnewydd a Phenybanc, sir Gaer- íÿrddin. Úrddwyd ef yn y lle blaenaf yn 1842. Yn 1850, symudodd i Glyn- nedd a Melincwrt, sir Forganwg; ond yn gynar yu 1854, derbyniodd alwad o eglwys barchus a chyf- oethog y Tabernacl, Liverpool—eglwys oedd wedi mwynhau gweinidogaeth y cewri nleddyliol ac areithyddol Williams o'r Wern a Gwilym Hiraethog. Ac yno y mae wedi bod bellach raewn parch a dylanwad cynyddol am 37 mlynedd. Y mae wedi cael ei anrhydeddu â'r prif anrhydedd fedr ei Enwad yn Nghymru a Lloegr osod arno. Etholwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn 187^, ac i gadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1885, a chyflawnodd ei waith yn y ddwy gaiair gyda'r urddasolrwydd a'r medr hwnw a'i nodwedda gyda phob peth yr ymatìa ynddo. Pan gofiwu luos- ogrwydd y galwadau sydd arno i wahanol fanau o Gymru a Lloegr, a gofal gweinidogaethol pwysig ei gartref, y mae yn í'ater o syndod mawr sut y mae yn gallu cyfiawni degwm y gwaith a gyflawna. Nid oes nemawr i fan yn Nghymru, hyd yn nod ei chymydd anghysbell yn gystal a'i phrif drefydd a'i hardaloedd poblog, nad yw ef wedi bod yno— naill ai yn pregethu, neu ddarlithio, neu areithio : ac y mae yn angenrhaid blynyddol mewn lluaws o fanau, a phrin y mae Cymanfa yn Nehau na Gogledd Cymru na fydd ef yn un o'r gwahodded- igion. Y mae wedi talu dau ymweliad âg America, lle y derbyniwyd ef fel tywysog gan bob enwad. Y mae ei ysgrifbin yn un o'r rhai ffrwythlonaf yn y wlad. Heblaw yr erthyglau aneirif yn mron y mae wedi ysgrifeuu i wahanol gylchgronau chwarterol, misol, ac wythnosol, y mae wedi cy- hoeddi lluaws o gyfrolau pwysig, megys " Hanes Eglwysi Annibynol Cymru " (mewu cysylltiad â'r diweddar Ddr. Rees, Abertawe), yn bedair cyfrol drwchus; ac yn ddiweddar y mae ef ei hun wedi