Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWREICHION. AMGYLCIIIAD RIIAMANTUS. Fel masnach-deithwyr yr oedd fy ngalwedigaeth yn fy ngalw i wahanol ranau o'r Deyrnas, a mwynhawn ei freshni a'r bywiogrwydd a roddai tra yn ddibriod, ond syrthiais mewn cariad a phriodais, a theinilwn fod bywyd crwydrol o'r fath yn tynu llawer oddi- wrth fy nedwyddwch teuluol. Byddai Myfanwy—fy mhriod—yn gwneud y goreu o beth allai ei hanianawd hawdd- gar hi wneud, ond byddui yn datgan yn dyner y byddai yn llawn cystal iddi briodi morwr a nnnau. Eto, yr oedd yn un allai roddiyr ochr oreu ar bethau ac yr oedd hi a fy chwaer yn cyd- gartrefu. Un diwrnod, pan wedi bod ar fy nhaith am wytlmosau, cefais lythyr oddiwrth fy chwaer fod twyniyn wedi tori jillan yn y gymydogaeth, ac íod Myfanwy yn dyoddef oddiwrthi. Ys- grifenai Maggie yn obeithiol, ac hyderai y byddai wedi adferyd erbyn y cyrhaeddwn gartref. Yr oedd genyf ymddiried yn Maggie, a derbyniais ei golwg obeithiol ar bethau. Önd ychydig nosweithiau ar ol hyny derbyniais frys- neges. Safai fy nghalon ynwyf'fel yr agorwn yr amlen, oblegyd gwyddwn na fuasai fy chwaer yn anfon i fy ymolyn yn ddiangen. Cynwysai y frysneges fod cyfnewidiad difrifol yn nghyíìwr Myfanwy, ond gobeithiai y goreu, ac am i mi ddychwelyd ar unwaith. ' Peidiwch oedi awr, deuwch ar un- waith," meddai. Brysiais ar unwaith—cyfarwyddais y gwestywr i anfon fy mharseli dranoeth a rhuthrais inau i'r orsaf—yr unig un yn y rhan jiono o'r wlad—a chyi haedd- ais mewn amser i weld y gerbydres yn diflanu o'm golwg i'r tynel. Am eiliad, nis gallwn sylweddoli fy anffawd. Safwn a gwylltdremiwn o fy mlaen. Yna daeth y gorsaf-fuistr i fyny ataf, a dwedai— ' Yr ydych wedieigollio ddwy eiliad 1' ' Ydwyf' pryd â'r nesaf,' holais. ' Chwech boreu fory,—dim un heno,' atebai. y ' Ddim un heno! Mae'n rhaid fod, o'r hyn leiaf, mae'r e.\press yn myrj'd o'r Junction ?' ychwanegais. ' Digon tebyg ; ond nid yẁ yn ar'os yma gan ei bod yn niyned, trwödd- i'r jnnction,' meddai'r swyddog.' ' Yna gofynais, ' Pr bryd y cyçhwynai yr Express o'r Junction ?' < ' Chwarter wedi naw,' oedd yr ateb. ' Beth yw pellder y Junction oddì- yma ? A allwn gyrhaedd yno rnewn- amser dros yr heol ? ' Allan o'r cwestiwn, syr. Cymerai dair awr i un çyfarwydd a'r heol.' Edrychwn^ ar fy aswy. Yr oed'd y mynyddoedd talgrib yn dyrchafij i'r wybren hwyrol. Yr oedd yn un o'r rhanbarthau mwyaf ìnynyddig yn Lloegr, a'r tynel yr^ fuddugoliaeth athrylith beirianol. Gan gyfeirio at y tynel, gofynais, ' Wedi myn'd drwy y tynel mae y station wrth law ?' ' Gwir, Syr, nid oes haner milldir ó'r twnel i'r station,' oedd yr ateb. ' Pa hyd yw ?' ' Y tynel, Syr, y mae yn agos i dair milldir, ac fel y saeth.' ' Nid oes dim un tren yn mynd lawr y llinell nes y byddo'r express yn mynd heibio ?' ' Nac oes, Syr.' ' Rhywbeth i fyny y linell ?' oedd fy ngoiyniad nesaf. ' Na, Syr, ddim am rai oriau, oddi- gerth tryciau, ond nid ydym. wedi der- byn rhybydd am danynt eto.' Fel yr edrychai arnaf yn gywroiniol, a diamheu yn rhyfeddu at íy holl gwest- iynau, nid oedd ganddo ddirnadaelh o'r hyn oedd yn myn'd drwy fy meddwl, neu nis gadawai fi yn unigar y Uwyfan. Yr oeddwn yn ieuanc, a meddianwn benderfyniad gwyllt i ddychwelyd at fy mhriod glaf, ac yr oedd aros hyd oriau y boreu cyn cychwyn yn annyoddefol, ac* yr oeddwn yn awyddus i ddal yr ex- ■piess. a'r unig ffordd oedd mynd drwy y tynel. N id oedd y tynel yn dair milldir ac yr oedd genyf awr a haner i'w gyf- lawnu. Nid oedd modd colli y ffordd, a chychwynais gan ddymuno y byddai genyf oleu, ac nid oedd wiw i mi ofyn yn yr orsaf, gan y gwyddwn y rhwystrid fy nghynllun. Cerddais yn gyflym gan geisio peidio meddwi, ond llithrai ymwybyddiaeth boenus fod fy ngwroldeb yn diflanu. Teimlwn y tawch taglyd yn effeithio arnaf, a.c yr oedd y tywyllwch yn gwneud pethau yn fwy erchyll byth. Wrth gwrs, byddai i lowr neu unrhyw un a'i alwedigaeth o dan y ddaear, byddai yn chwerthinyn ddirmygus am fy ofnau plentynaidd. Yr oedd y sef- yllfa yn newydd i mi,- a minau o feddẁl cyffrous a dyehmygol. Brysiais yn mlaen, a llanwyd fy meddwl am Myfanwy, a'r boddhad 1 ddal yr express, a buan y dychwelodd dychrynfeydd y foment; ac ymdreehais.edrych arnynt o gyfeiriad gwahanol—yiritiyniwn ei bod yn anturiaeth y byddẃn by}v i fod yn falch o honi. YJna, adgoliais am bethau ddarllenais aiìi lwybrau tan- ddaearol, ac yn naturiol chwedlau ain y bedd-ogofau. Cerddais fe allai am haner awr, ac ofnwn yn barhaus ddyfod i gyffyrddiad a ryw wrthddrychau, ac ar unrhy w eiliad ddyfod i wrthdarawiad anymunol a hwynt. Fel yrhedaify mysedd ar y priddfeini garw yn yr ochr daeth dychryn arall i'm meddianu. Gwynebwn y posibilrwydd fod y .swyddog wedi gwneud camsynicd, ond credwn y gallwn ymguddio yn yr ochr, ond yn awr, fodd bynag, suddai braw i fy nghalon gan nad oedd ond ychydig o le yno. Profais ef droion. Safwn a fy nhroed wrth y rheüiau, a fy mraich yn estynedig at yr ochr, ac yr oedd rhyw swyn yn y peth. Yn ystod y deng mynyd nesaf, gweithiwn fy liunan i ingoedd mecldwl a dychymygion y try- chineb gwaethaf. Tybiwn beth pe byddai dau dren yn rhedeg ar y ddwy linell, pa siawns fyddai genyf. Ýr oedd y syniad yn llethol. Yr oedd dychwelyd yn anmhosibl, gan fy mod yn sicr fy mod wedi myned dros haner y ffordd. Yn sicr, yr oedd cuddleoedd yn sic.r o íod yn yr ochr yn rhywle. Vr oeddwn yn sicr fy mod wedi gweled uh y tu ol pan gyneues fatsen. Yr oedd gwreich- ionen o obaith yn hyn. Tynais^fy mlwch matches aílan eilwaith, ond yr oeddwn mor gyllrous, fel y llithrodd o fy nwylaw a'i gynwys gwerthfawr ar wásgar, Yr oedd hyn yn ofìd newydd. Yr peddwii ar fy ngliniau mewn eil- iad yn yinballalu am danynt, ac wedi hir chwilio cefais un, ac yr oeddwn dan yr. angenrheidrwydd o oleuo hono er chwilio am y gweddill, a phan ddi- ffoddodd hono yr oeddwn a phedair yn fy llaw, a gorfu arnaf adael y gweddill a brysio ar fy nhaith, a fy awydd mawr oedd cael o hyd mewn ymguddle mewn angen. Er i ini oleuo y matches un ar ol y llall ni lwyddais gael o hyd i le o'r fath. Nis gwn pa amser ydoedd na pha bellder yr oeddwn wedigerdded, ond gwelwn yn mlaen yn y pellder oleuni. Llawenychais, gan feddwl fy mod allan o'r tynel, ond cofiais mai'r hwyi ydoedd, ac felly, mailampoeddwn yn weled. Gwelwn hyny yn eglur, gan ei fod yn neshau ataf. Safwn, ac edrychais, arosais a theimlwn y ddaear yn crynu danwyf. Yr oedd y rheilen ar yr hon yr oedd fy nhroed yn dirgrynu fel pe llifai ftrwd o drydaniaeth drwyddi, tra yr ysgubai gwynt cryf drwy y tynel, a deallais fod yr express yn dyfod. Ni anghofiaf byth y teimlad aeth droswyf. Ymddangosai fel pe byddai prohadau íy oes yn tynu i'r un foment hono,V—ad- gofìon fy maboed—breuddwydion am y dyfodol yn yr hwn yr oeddwn wedi bwr- iadu gwneud cymaint. Ai hyn oedd marwolaeth'? Rhoddais ysgrech an- obeithiol a gwyllj; am gynorthwy. Gweddiais yn uchel na fyddai i Dduw fy ngadael i farw. Collais fy ym- wybyddiaeth—ni ddaeth i'm meddwl i sel'yll yn erbyn yr ochr, a rhuthrais mewn pang o anobaith yn mlaen. Yr oedd fy llais, fel yr adseiniau yn y lle erchyll hwnw, wedi eifoddi mewn eiliad gan chwibaniad yi express. Rhuthrais o flaen y glutl-dren ac yr oedd ei llusein yn llewyrchu aniaf, ac nid oedd dim ond gwyrth allai'm achub, ac i'm meddwl i, gwyrth ddygwyddodd. Safwn ychydig latheni oddiwrth y peir- iant. Fel yr ymbalfalwn yn ddall yn mlaen, teimlwn law gref a gafael haiam- aidd yn fy nhynu i'r ochr. Yr oeddwn yn haner-ymwybodol, a gwelwn fflach y tren fel yr ysgubai heibio. Gwyddwn fy inod ar y Uawr a bod y gafaeliad