Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YCEIDWADWR Rhíi,: Cyhoeddedig gan J. Morris, 80, Hioh Steeet. Khif. 2. CTF. I. GORPHENAF, 1882. Pris 2g. NODIADAU Y MIS. Adboddib fod Afghanistan mewn sefyllfa ddigon an- foddhaol, oherwydd bradgynllwynion Ayoub Khan. ** Ee gwaethaf gwrthwynebiad y Liberationists, cafodd y " Walton Vicarage Bill," y cyfeiriwn atto mewn colofn arall, ei wneuthur yn gyfraith. * * Yn ystod y mis diweddaf glaniodd 1411,000 o ym- fudwyr yn Nhalaethau Unedig America o wahanol wledydd Ewrop. & 'Ä' Un o brif ddigwyddiadau y mis diweddaf oedd marw- olaeth Garibaldi, yr hwn a fn yn foddion i ryddhau yr Ital o grafangau mân dywysogion gorthrynans ac offeiriaid rheibus Eglwys Rhufain. * * Ymwelodd dirprwyaeth o aelodau seneddol, &c, â Mr. Mundella, av y 19fed o Fehefin, yng nghylch addysg uwchraddol yng Nghymru. Addawodd yntau wneuthur ei oreu dros Gymru yn y matter; ond nid oedd yn disgwyl y gellid gwneuthur dim eleni. * * Gwedi cythrwfl blin yng Ngwlad yr Aipht, dinystr mawr ar feddiannau Ewropeaidd, a Uofruddiad lliaws o honynt, mae rhyw fath o drefn wedi ei adferu pan ydym yn myned i'r wasg. Ond mor dra ansefydlog ac anfoddhaol yw pethau yno, fel nas gwyddys pa foment y tyrr y terfysg allan etto. * * Y faen gyflredinel yw fod ymweliadau Aiweddar yr Archddiacon Smart wedi troi allan yn hynod lwydd- iannus. Gwerthfawrogid yn fawr ei waith yn siarad yn Gymraeg mewn lleoedd gwledig y bu ar ymweliad â hwy. Yn yr hydref cynhelir cynhadlcdd o wŷr llên a lleyg ei archddiaconiaeth. * « Yn Zululand mae'r llwythau brodorol yn ymrafaelio â'u gilydd, ac mewn canlyniad, gan ofni y tyrr rhyfel allan, ymedy y bobl wynion o'r wlad. # * Yn Nhalaeth Iowa, America, lle y mae llawer o Gymry, chwythai corwynt cryf un diwrnod yn ddiweddar, ac mewn un dref lladdwyd 70 o bersonau. * # Rhydd foddhad mawr i ni hyspysu mai ein cyfaill Penfeo oedd y buddugol ar destun awdl Eisteddfod Powys, a gynnaliwyd yn Llanwddyn, ar y 7fed o Fehefin. Y testun oedd " Dwfr." «, # * Nid oes etto neb mewn dalfa ar gyhnddiad o lof- rudddio Arglwydd Frederick Cavendish a Mr. Burke, er gwaethof y wobr fawr a gynnygiwyd am ddargan- fyddiad y troscddwyr. Ofnwn nad oes gobaith y delir hwy byth. * # Oddetjiu canol mis Mehefin darganfu yr heddgeid- waid oddeutu 500 o ynnau, a miloedd o ergydion, wedi eu cuddio mewn hen ystabl yn Clerkenwell, Llundain. Tybir mai wedi eu darparu yr oeddynt at wasanaeth Ffeniaid yr Iwerddon, ac y mae dyn o'r Walsh, oedd yn ardrethu yr ystabl, yn y ddalfa. # # Nid ydym am gymmeryd hyspysiadau rhagllaw; gan fod ein cylchrediad presennol yn ein galluogi i lenwi cin tudalenau â phethau eraill. Pan ymgymmerwn â chyhoeddi hyspysiadau gwnawn hynny drwy hel- aethu ein terfynau. Ein hamcan ni fydd gwneuthur Y Ceidwadwb yn wasanaethgar i'r amcanion y cychwynwyd ef, ac yn ddyddorol i bawb.