Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ehif. 5. Cyf. I. HYDREF, 1882. Pris 2g. NODLADAU Y MIS. Mae Act Cau'r Tafarndai ar y Sul yng Nghymru yn awr mewn grym trwy'r Dywysogaeth. Adroddiadau a fynegant fod nifer y " bona flde travellers " wedi cynnyddu yn ddirfawr y Suliau diweddaf. Mae am- ryw frawddegau ammwys yn yr Act, a gwahanol yn- adon wedi eu hesponio mewn amrywiol ffyrdd. * * Bweiedib cynnal Eisteddfod Gerddorol Gogledd Cymru yng Nghaernarfon yn ystod y flwyddyn nesaf. Nid yw adeg ei chynhaliad wedi ei benderfynu etto, ond tybiwn mai tua'r Pasg y cymmer le. Cynnygir gwobrau o £50 i £60 i gorau undebol, fel ein byspysir, a'r cyfanswm dros ddau cant o bunnau. * # Achwyniad lled hynod a ddygwyd yn erbyn dyn yn llys ynadon Broughton, sir Fflint. Cyhuddwyd dyn ieuangc, o'r enw Edward Williams, o ladratta blodau oddiar fyhwent Penarlag, a'u symmnd ar fedd arall, lle y gorweddai dau o'i blant ei hun. Ceryddwyd ef yn Ilyni gan yr ynadon, a bu raid iddo dalu dirwy o swllt a'r costau. # * Rai misoedd yn ol pasiodd senedd-dy Switzerland gyfraith yn gwneuthui rlioddi cowpoc ar blant yn beth gorfodol. Ond gwedi y gwneir deddf yn y wlad honno, gellir appelio at "lais y wlad" yn ei herbyn. Gwnaed felly ynglŷn â'r ddeddf yma, ac yr oedd mwyafrif o chwarter miliwn pleidleisiau y bobl yn ei herbyn. # # Y Mae'n bleser gennym allu hyspysu fod fihaglun- iaeth yn rasusol wedi adferu Deon Bangor o'r afiechyd trwm y bu ynddo yn ddiweddar. Hyderwn fod iddo etto ddyddiau lawer i wasanaethu ei Eglwys a'i gen- hedlaeth. Yn yscod y mis cynhaliwyd math o wyltnabsant yn Preston, sef y " Guild Festivities " a gedwir yno un- waith bob ugain mlynedd. Addawsai Duc Albany fcd yn bresennol, ond lluddiwyd ef gsn afîechyd. Parhaodd yr wyl am amryw ddyddiau, a chaed yno hafiaeth mawr. * * Mae rhyw led ddisgwyliad y daw Tywysog Cymru i agor doc Abergwaen y flwyddyn nesaf, yn ogystal a dyfod i Eisteddfod Rhuthyn yn y flwyddyn ddilynol. * * Sylwai Dr. Harper, mewn llythyr yn ddiweddar, na cheir gwell addysg am bris mor isel mewn un ysgol yn Lloegr ag a geir jTn Ysgolion Grammadegol Aber- honddu, Llanymddyfri, Abertawy, a Phontfaen. Well done, hen Ysgolion Grammadegol y Deheudir! Ym mha le y saif y coleg uchelgeisiol ei enw wrth ymyl y rhai hyn, wys ? * * Mewn araith a draddododd yn Warrington, sylwai Colonel Blaclíburne, M.P., fod Ilwyddiant Eglwys Loegr yn dibynu i raddau helaeth ar addysg genhcdl- aethol, a gwasgai ar Eglwyswyr y pwysigrwydd o wneuthur crefydd yn sylfaen yr addysg honno. * # Ehoddodd y Prif Weinidog dippyn o snuh i Rydd- frydwyr Sir Forgacwg, trwy wrthod caniattan iddynt ymweled â pharo Penarlag. Gadewir i lebystiaid Radicalaidd o Lerpwl, a threfydd eraill yn Lancashire, fyned yno yn ddiwarafun. Paham y gwrtliodid y Cymry druain ?—ai am fod Mr Gladstone yn tybied fod glowyr Morganwg yn ddiarhebol ddireidus, ac nad oeddynt yn gymmwys i ddynesu at ei gastell ? * * Ye oedd yn gofyn cryn ddewrder yn Iarll Spencer, Arglwydd Englaw Iwerddon, cyn y buasai yn ym-