Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"Y NEB A DDARLLENO A FYDD DOETII."—Díhaueb. ITH Y TE CYHOEDDIAD MIS 0 L Rhif 1.] IONAWR, 18fil, [Pius \c. CYFARCHIAD. Anwîl Gyfeillion,—Wrth gynyg dwỳn, fel ,hyn, Gyhoéddiad Néwydd i'ch sylw, yr ydych yn disgwyl, wrth gwrs, i ni wnèyd rhyw ychyàig o ragdraeth—rhagdraethu heth sydd genym mewn golwg, a beth ydym .yn ei feddwl wneyd yn yr anturiaeth. Nid ydym yn meddwl gosod o ílaen eîn darllenwyr benodau ar sefylifaau gwahanol deyrnasoedd y byd, a helyntion rhyfeloedd. Y mae awyrgylch y byd Politicaidd yn rhy gyfnewidiol i fisolyn wneyd nemawr les i'r wlad trwy eu trafod ; ac y rnae genym ein Cyhoeddiadau wythnosol, y rhai sydd yn llawn llygad ar y mater, Nid ydym, ychwaith, yn meddwl codi dadleuou ar bynciau athrawiaethol y gwahanol enwadau orefyddol, na'u trefniadau, Yr ydym yn meddwl fod y dadleu mawr a fu rhwng gwahanol enwadau Cymru, bron yn gwbl wedi myned i lawr, ac ni ddymunem ni roddi belp ein bys bach i'w godi i fyny byth mwy. Y mae y fath argoeîion o undcb rhwng y gwahanol enwadau, fel y mae lle mawr i gredu fod yr amser pnn y " dychwel yr Arglwydd Sion '-' heb fod yn mhell, pan fydd "y bugeiliaid yn gweled lygad yn lh'gad." Y mae rhagfarn grefyddol fel pe byddai wedi dyfod i'w oed, ac fel hen wr yrs crymu i'r ddaear o hono ei hun. Yr holl ddadleu a fu, nid y cawl oedd pwnc y ddadl, fel y-'dywedai hen wr yn ddiweddar, ond y llwy a"r picyn, Y reae hanfodion crefydd genym olí, ac arwyddion amlwg fod crefydd bur yn amlach nag y bu hi o'r blaen. Yr ydym yn bwriadu gwneyd lles i'r wlad trwy osod o flaen y Uuoedd, mewn ffordd rad, benodau ar wahanol fateron, difyrus a llesoh y gwna y darileniad o honynt blescr i'r meddwl, golcuni i'r deall, a lles i'r gydwybod ; yn nghydag ambell draethawd byr a da ar wahanol ganghenau gwybodaeth gyffredinol, a materion crefyddol na byddo y trafodiad o honynt yn adgodi heu ddadleuon pleidiol. a chwestiynau anorphen a diles.