Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SEREN FOREU. GORPHENAF, 184G. TRAETHODAÜ, &c. SIWGR. Gan eich bod, fy anwyl blant, yr wyf yn atnmau, yn dra awyddus am y defnydd hwn, gweil fyddai i chwi gael gwybod pa sut y gwneir ,ef. Tyfa math o iysieuyn, mewn gwledydd lle mae'r hin yn llàwer poethach nag yma, yr hwn a elwir yn gor- sen siwgr; ac, yU wir, math o gorsen yw efe, ond ei fod yn lled braffus a thàl yu ymyl y cyrs mwyaf a welsoch yn y wlad yma. Pan addfedo y cyrs hyn, tòrir i lawr wrth y ddaear, a chludir hwynt i le diddos. Yno mae p<âr o roliau heìyrn mawr, tebyg i felin clai, yn cael eu troi gan rym olwyn ddwfr, neu ryw allu arall; a chan fod y ddwy rol yn agos i'w gilydd, ar ol taflu y cyrs yn gofleidiau arnynt, malir hwynt yn ddryÜiau, a disgynant i lawr, ynghyd â'r siwgr oedd o'ü mewn, i wared i gafn sydd ì'w derbyn odditanodd. Oddiyno cludir y cwbl i ffwrn neu foiler mawr, ac yna teflir Ruif. i.] A