Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWRON ODYDDOL. " CYFEILLGARWCH, CARIAD, A GWIRIONEDD." CHWEFROR, 1840. PETHAU I'W HYSTYRIED. "EWN corfF mor luosog agyw yr Un - deb Odyddol, y mae yn beth o bwys mawr pa fodd y mae, ag y bydd yn ol liaw yn cynnal ei hun. Ý mae yn ddiau ei fod yn awr yn un o'r rhai mwyaf lluos- og, cyfoethog, a dyngarol, fel undeb o'r cyffelyb, ag a hanfoda dan yr holl nef- oedd; a chan ei fod felly, dylai pob dyn- garwr ddymuno ei barhad yn llwyddian- nus a digwmwl hyd ddiwedd amser. L'r dyben i sylwi ar ei sylfeini, cymerwn olwg yn gyntaf ar y parotoadau a wna pob aelod erbyn amser a ddaw; efe a dâl gymaint o swm i'r drysorfa ag a wna hono yn ddigon cyfoethog i weinyddu cysur a digonedd iddo yn awr trallod a chyfyng- der. Trwy ein bod yn gwahuniaethu yn fawr oddiwrth Gymdeithasau y Cleifion, y mae ein taliadau yn wahanol iawn i'r eiddynt hwy, ac ni allwn gymeryd un o'u taflenau hwynt megys cynllun i ni. Yr ydym yn ddewisolion dim ond gradd fech- an yn is na'r canolryw, a llawer iawn o honom o'r radd hòao hefyd, ac felly nid ellir cydmaru y radd isaf o'r bobl â'n corff ni. Yn ol yr wybodaerh ar y rhestr a dderbyniwyd gan yr Undeb, cymerodd 871 o farwolaethau le mewn un mis ar ddeg, a rhaid ychwanegu mis arall i'w gwnejd yn fiwyddyn, yr hyn a wna 950, (yn ol nifer yr aelodau y pryd hwnw,) wedi marw, hyd y cyntafo Ebrill, 1838. Ar restryr Undeb y pryd hwnw yr oedd ^1,702 o aelodau; yn awr, os cyraerwn oedran canolradd y rhai oeddynt yn fyw yr amser a nodwyd yn 32 mlwydd, yr hyn nad yw ond pedair blwydd yn hynach na chatiolradd y rhai a unasant a'r Undeb y flwyddyn ddiweddaf, yn ol taflen y Cym- deithasau i'r Cleifion gan un Charles An- seil, Ysw., F. It. S., buasai farw dros un cant ar ddeg;. felly y mae genym dros ugain y cant, neu un o bump ya llai o farwolaethau yn ein plith na'r cymdeithas- au a enwyd, yn ol eu rhestf hwynt eu hunain. Ond i sefydlu y cyían ar y pwngc hwn, gobeithir y bydd i'r A. M. C. welea yr angenrheidrwydd o orchymyn anfon iddynt wybodaeth o bob clefyd a marwolaeth yn ein gwahanol Gyfrinfa- oedd, yr hyn a'n galluoga ni i wneyd rhestr gywir, trwy yr hon y byddom yn gwybod yn berífaith pa faiiit yw yr holl farwoldeb yn mhlith- ein corff mawr yn ystod un amser. A dylai pob Cyfrinfa anfon i'r bwrdd hanes gjflawn o hyny bob chwarter blwyddyn. Yn awr tybiwn fod tafleni y boneddig Charles Ansell yn addas i'n hundeb ni, wrth yr wybodaeth a dderbyniwyd yn unol a'r gyfraith 177 yn y M. B., gwehr fod y pryd hyny 22,438 o aelodau, a 170 o aelodau anrhydeddus wedi uno á'r Un- deb mewn ystod un mis ar ddeg, sef o Ebrill y cyntaf, 1838, hyd y cyntaf o Fawrth, 1839, a'u hoedran fely canlyn :— Oed. Rhif. Oed. Rhif. Oed. Rhif. 18 297 12,744 20,411 19 1187 28 1270 37 379 20 1283 29 957 38 453 21 1775 30 1060 39 541 22 1663 31 680 40 250 23 1443 32 859 41 158 24 1396 33 722 42 101 25 1298 34 874 43 69 26 1251 35 766 44 52 27 1151 36 449 45 24 12,744 26,411 22,438 Gydag ychydig bach o drafferth geill y darlleuydd weled fod canolradd eu hoed- ran rywbeth yn llai na 28 mlwydd bob un. Felly yn ol y tafleni hyny bydd yn angenrheid;ol yn yr oedran hwnw i bob un dalu pymtheg ceiniog y mis i'r dyben o dderbyn deg swllt yr wythnos yn amser