Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERBYD CERDDOROL. " Cenwch fawl yn ddeallus.* Psalm xlvii. 7. * Pa fodd y gallaf, oddieithr i ryw un fy nghyfarwyddo ?" Act. viii. 3j. Rhif. 1,] GORPHENAF, 1860. [Ctp. I. TRAETHAWD AR ELFENAU CERDDORIAETH. Cerddoriaeth yw y gelfyddyd o egluro syn- iadau a theimladau y meddwl trwy gyfrwng seiniau. Cynnyrchir seiniau cerddorol gan guriadau neu gyffroadau yr awyr, yn cael eu hachosi gan ddef- nyddiau hydwythol (elastic substances) mewn cynhyrfiad, a cíiludir nwy gan yr awyr i wrthdar- awiad â pheirianau y clyw. Fel prawf o hyn, ni raid ond sylwi ar dànt, telyn neu ryw offeryn arall, pan fyddo y u seinio. Tra byddo y glust yn clywed y sain gall y líygfad weled cynhyrfiadau y tànt, a gellir eu teimlo â'r llaw drwy gyffyrddiad ysgafn. Pan dderfydd cynhyrfiadau yr offeryn yr awyr a lonydda, a'r sain a ymgolla yn llwyr. Y mae y gwahaniaeth sydd rhwng sain a sŵn yn eglur i bawb a feddant ar y synwyr o glywed ; ond i'r athronydd y mae yr achos or gwahaniaeth yn wybyddus. Gŵyr ef fod y flaenaf yn cael ei chyn- nyrchu gan gynhyrfiadau rheolaidd a chyfartal, a'r olaf gan gynhyrfiadau afreolaidd ac annghyfartal. Hefyd y mae y gwahaniaeth sydd rhwng soiniau uchel ac isel yn ddigon amlwg, ond yr athronydd a ŵyr fod seiniau uchel yn cael eu cynnyrchu gan fwy o gynhyrfiadau na rhai isel, ac yn y gwrthwyneb, a bod y cynhyrfiadau a gyn- nyrchant bob math o seiniau yn gyfrifadwy, fel y cawn ddangos eto yn fuan. Bydd seíniau yn wan, neu yn gryf; yn arw, neu yn dyner, &c. yn ol fel y bydd dull a defnydd yr offerynau fydd yn eu cynnyrchu. Cyfuniad peroriaethol o seiniau yw alaw (melody), a threfniad cydgordiol o seiniau mewn gwahanol alawon yw cynghanedd (harmony) : yn ol fel y cysylltir yr oll ynghyd, yn ol deddf'au pennodol, y nodweddir y cyfansoddiad ; ac o angenrheidrwyda, bydd ei effaith ar y teimlad yn gydnaws á'i ar- ddull a'i ansawdd. Pr dyben i allu cynnrychioli seiniau o flaen y llygad, a'u dwyn dan lywodraeth ac at wasanaeth y cyfansoddwr a'r datgauwr, ffurfiwyd nodau, neu goelion, y rhai sýdd yn amrywio yn eu dull, a'u hamser, ac a osodir ar, a rhwng Uinellau, i ddangos eu graddeg (pitch). Yn awr, ni a ddechreuwn egìuro yr elfenau hyn yn fauylach, ac a gymerwn dan sylw I. YR ERWYDD (The Staff). Yr Erwydd a arferir yn bresenol a ffurfir o bump o linellau cyfochrog (parallel Imes), y rhai, ynghyd â'r cyfryngau rhyngddynt a gyfrifir o'r gwaelod i fyny; fel hyn,— ^zi: Mae yr erwydd yn y ffurf uchod yn ddigon eang i gynnwys unarddeg o nodau, ond y bydd un îslaw ac un uwchlaw yr erwydd : fel hyn,— IE£ -© X5z®: 33 -O XI -©• JZL 12 3 4 5 8 9 10 11 Os bydd achos myned yn uwch, neu yn îs, gellir defnyddio y nifer a ewyllysir o linellau byrion, a elwir Gorlinellau (Ledger lines), odditan ac oddiar yr erwydd. Dyma angrhaifft,— pä •# tí öí Mewn cerddoriaeth leisiol defnyddir yr un nifer o erwyddon (staves) ag a fydd o gydranau (parts) yn y cyfansoddiad ; ond mewn cerddoriaeth a bar- otöir i'r organ, yr eilionetr, ac offerynau eraiIL cyffeiyb, pan y mae erwydd yn angenrheidiol i bob llaw, cyssylltir hwy â Rhwymyn (Brace), fel isod:— Rhwymyn II. YR ALLWEDDAU (The Clefs). Y mae holl seiniau cerddoriaeth yn cael eu henwi yn ol y lly thyrenau ABCDEFG; acer mwyn dangos sefyllfa pob sain ar yr erwydd, ^lefnyddir tri math o allweddau, y rhai a enwir allwedd G, allwedd C, ac allwedd F, oddiwrth y llythyren a gynnrychiolir gan bob un o honynt: fel hyn,—