Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERBYD CERDDOROL PRIS PEDAIR CEINIOG. " Cenwch fawl yn ddeallus." Psalm xlvii. 7. " Pa fodd y gallaf, oddieithr i ryw un fy nghyfarwyddo ?" Act. vm. 31. Rhif. 3,] AWST, 1860. [Cyp. I. AT EIN DERBYNWYR A'N GOHEBWYR Methwyd a chael y Rhifyn hwn allan yn brydlon o herwydd prysurdeb gyda phethau eraill. Bydd darn helaeth o'r "Traethawd ar Elfenau Cerddoriaeth" yn y Rhifyn nesaf, ond bu raid ei adael allan am y tro presenol. D Davies.—Ni attebai y Cerl^d ddyben ei gy- hoeddiad wrth ei gyfyngu at gyfansoddiadau cys- segredig yn unig. R. L. J.,—Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi hys- bysiadau yn y Cerbyd tra y byddo yn ei faintioli presenol, er fod ei ledaeniad yn dra helaeth yn bar- od: anfonwch i uti o'r cyhoeddiadau wythnosol. Iwan y Pynciwr.— Ni waeth i chwi heb byncio ar y pwnc yna, gyfaill; yr ydych yn " colli arni hi" yn brysur: eich cŷmmydog sydd yn iawn. Meirionfab —Naddo: er ein bod agos a darfod cyfansoddi anthem, a thôn genedlaethol; ond trwy ein bod yn dra phrysur ar y pryd methwyd a dytod i ben yn ddigon buan, a bu raid i ni " gadw ein cerdd yn ein côd" am y tro. Y mae yr anthem yn y wasg, a chyhoeddir y dôn genedlaethol yn fuan yny Cer- byd. Yr oedd yn dda genytn glywed am lwyddiant ein hoffus gyfaill Cyndeyrn gyd a'i anthem : buasem yn disgwyl rhy wbeth o werth oddiwrtho ef. üy- munem ei gweled yn argraffedig. Siomedig.—Y mae yn hawdd genym eich credu fod llawer o brif gerddorion y dywysoiraeth wedi ymgystadlu am yr "anthem oenedlaethol," ond go- beithiwn mai heb sail y dywedir fod y beirniaid yn "oediyramser hebwobrwyo, mewn disgwyliad am gyfle i geisio enwogi eu hunain ar y testun hwnw." Clustfeiniwr.—Rhaid eich bod yn camfarnu yn ofnadwy feddyliem ni. Am ba achos y gallai y beirniaid fod yn cenfigenu wrthym ? Y mae y byd yn ddigon eang, fel nad oes achosi ni ormesu ar ein gilydd, ac y mae pawb o honom dan rwymau i wneyd y defnydd goreu a allwn o'r talentau a ym- ddiriedwyd i ni, Gan na fuom yn yr Eisteddfod ni fyddai ond rhyfyg ynom ^eisio dywedyd dim am y cânu, nac am y feirniadaeth; oud y mae y tfaitli fod y beirniaid yn methu a phenderfynu pwy i wobrwyo neb iddynt ail aanu, yn cadarnhâu yr hyn a ddy- wedir yn gyffredinol gan y rhai a fuotit yno, sef bod côrau Dinbych a Dyserth wedi canu yn gyfartal, ac y dylesid rhanu y wobr rhyngddynt, neu os oedd canu eìlwaith i fod, mai teg a fuasai hysbysu y côrau pa un a ganiateid iddynt newid eu cyfansoddiadau ai peidio, yn ile bod un yn newid a'r llall yn of'ni na chaniateid iddynt newid, ac yn canu yr un peth drachefn. Nid ydyw yn hawdd iawn ein darbwyllo i gredu fod y beirniaid yn amcanu difrio Cwymp Sebastopol, na'r awdwr, wrth ddywedyd y buasai yn ddymunol fod cantorion Dyserth wedi dewis dernyn a mwy o'r peth aalwent yn light and shade ynddo. Nid oedd hyny yn profi dim ond, nad oedd yn y dernyn a ganwyd ddigon o amrywiaeth i foddhâu eu chwaeth hwy. Yr oedd y glee yn unol a chwaeth cantorion Dyserth. ac yn rhoddiboddhâdi'rmiloedd ymgynnullediff. Ni fuasai raid i'r beirniaid ddim ond talu ychydig o sylw i'r geiriau, na ddaethent i benderfyniad ar unwaith, mai fíblach nag ynfyd- rwydd a fuasai gwisgo testun gwronaidd felly â rhyw lawer o Ughts and shades. A ydyw yn debygol f'od y milwyr, ar faes y gwaed, pan newydd orchfygu eu gelynion, a phrin gael diangfa o safn marwolaeth yn gaílu rheoli eu teimladau, ffrwyno eu nwydau, a chyweirio eu lleisiau, i gânu recits, duets, trios, guartets, solos, êfc, ac i dalu sylw i piano, forte, giusio, lento, a phethau o'r fath'? Na na, mwy nat- uriol o lawer iddynt ymdori allan mewn un chorus nerthol a gorfoleddus, wedi ennili y fuddugoliaeth yr ymdrechasant am dani " hyd at waed," gan arter geiriau tebyg i'r rhai hyny yn y Nwyfgan,— " Wel bloeddiwch, y dewrion, gwroniaid y gad! &c. &c. &c. "Dadblyger y faner ar fryniau 'r Crimea! "Sebastopol gwympodd &c. Os oedd gan feirniaid Dinbych ryw amcan gwaelach mewn golwg naa: ydym yn foddlon i gredu, nid oes genym ddim help. Y mae " Cwymp SebastopoI,,r a channoedd o'n cyfansoddiadau eraill yn adna- byddus i rai miloedd o gerddorion, yn Nghymru ac Ámerica, cyn bod son am Eisteddfod Dinbych, ac ni chyfnewidiant eu barn am danynt er dim a ddy- weder gan y l)oneddigion dau sylw. Nid ydym yn arswydò dim rhasr eu difri'aeth; gwyddom nad ydym yn ei haeddu; ac os na chawn eu ffafr mediwu wneyd hebddo. Y mae genym gymmaint o hawl i gyfansoddi yn ol ein barn a'n chìwaeth ein hunain ag sydd ganddynt hwythau, pa destun bynag a gym- merwn mewn llaw. " Every real artist has a pe- culiar manner of viewing the universe and its com- bined attributes, and so forms his own method of expressing and representing its impressions on him- seJf', which method may be observed in all his works, and may be called the type of his artistic creations; or, in short, his style." Wedi argraffu y Rhifyn diweddaf. derbyniwyd tônau &c. oddiwrth Anturiwr, D. Griffiths, J. Jones^ E. Humphreys, D. Nicholas, D., Eos Deiniol, a Hwntw Gantor. Bydd genym air i'w ddywedyd wrth rai o honynt yn ein Rhifyn nesaf. SYL WER1 Ymaey Rhan Oyntafo'r Ail Gyf- rol o> "Cerddor Gwreiddiol" wedi eì gwerthu yrt llwyr, ac nid oes genym gyfleusdra yn bresenol i wneyd ail argraffiad o honi. Os oes rhai ó'r Rha?i hono yn sefyll ar law y Gwerthwyr, neu y Dosbarth- wyr, byddem yn ddiolchgar iddynt am eu gyru i nì yn ddioed, a rhaddion eu llawn bris am danynt.