Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y SEMU iOBSŶWESTOL " Eithr ffrwyth yr Yspryd yvr cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymmwynasgarwch, daioni,ffydd, addfwynder, dirwest. Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf." Galat. v. 22, 23. Rhif. 5.] MAI, 1837. [Pris lc. GWELEDIGAETH Y GRISIAU DUON. Tra yr oeddwn yn distaw fyfyrio ynof fy hun ar ddull ac agwedd fy nghyd- ddynion yn treulio eu hamser yn y byd, ac ar eu cyflyindra rhyfeddol yn teithio llwybr bywyd hyd lan afon angeu, lle y llonydda pob dwndwr a sŵn, ac y der- í'ydd y cynnwrf oll, dcieth Dirwestheib- io, ac a ddywedodd wrthyf, 'Tyred gyda mi, fy mab, a mi a ddangosaf iti bethau anghredadwy—mi a ddangosaf i ti weledigaeth y Grisiau Duon.' Ar yr amnaid lleiaf yr oeddwn yn barod at ei gwasanaeth; ac ymaith â ni, trwy lwybrau tywyllion cwsg, hyd gyruu Dyífryn Gweledigaethau. Ymayroedd miioedd o ddrychiolaethau ofnadwy i'w gweled,—a dinasoedd eang, a chreigiau crogedig, a bryniau serth. ' Ymhell acw,' ebe Dirwest, ' yn y gwastadedd islaw y llwyni, y mae yr hen ddinas hono, a elwir Dinas Gwagedd, yn sef- yll. Dacw lle mae Pleser yn aberthu ei filiynau yn flynyddol i'w hen olynydd Poen. Dacw lle mae dynion yn cotìeid- io fflamau Gehena am fwyniant pechod am amrantiad. Dacw lle mae prif-or- seddfa teyrn y dychryniadau. Tyred acw, fy mab, a mi a ddangosaf iti beth- au ofnadwy.' Wedi i ni deithio yn hir ar y gwas- tadeddhwn, o'r diwedddaethom hyd at borth y ddinas fawr. Cymmaint oedd yr enw a'r bri a roddid ar y ddinas hon, fel yr oedd miloedd ar filoedd o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chen- edl yn pentyru iddi yn wastadol. A chymmaint hefyd oedd bywiogrwydd y fan, a phrysurdeb y preswylwyr, fel na chaffent hamdden, am foment, i ed- rych ar y wybren uwch eu penau : oher- "wydd pe caent ond un golwg ystyriol ar hon, hwy a sobrid oll mewn mynyd- yn. Yr oedd y cymylau ar dori gan y dinystr a'u gorlwythai, yr oedd swn taranau Ior yn yr eithafion yn dynesu nes-nes o hyd, a mellt ei farnedigaethau yn gwibio o amgylch pinaclau y ddinas; ond yr oedd y preswylwyr oll wedi eu denu gan swynion eu chwant, fel nad oedd rhu y daran, na llewyrch y fellten yn eífeithio dirn arnynt. Pan aethom gyntaf i'r dref, mi a welwn y duwiau yn ymrodio ar hyd eu heolydd. Yn un cwr yr oedd Bacchus yn canmol ei ddi- odydd, gan haeru, ' Dyma y gwir wlyb- yroedd sydd yn rhoi bywyd a nerth, wedi eu dwyn yma o fôr Pleser ei hun.' Ar y llaw arall, yr oedd Momus yn ar- eithio ei ífraethineb a'i ddigrifwch, gan haeru mai ewylìysydd da i Bleser y genedl oedd yntau, rhag syrthio o hon- ynt yn ysglyfaeth i brudd-glwyf crefi yddol trigolion 'dinaslmmanuel.' ' Hh,1 ebe fi o'r diwedd, y mae y ddinas hon wedi ei chamenwi yn fawi—Dinas y Duwiau yw hon—ac nid Dinas Gwag- edd.' ' Yn araf, fy mab,' ebe Dirwest, 'dyna yr olwg gyntaf y mae pawb yn gael arni—yw Dinas y Duwiau, ac yn yr olwg hon y mae cannoedd wedi eu Uithio i gartrefu ynddi, hyd oni ddaeth llef yr lehofah i'w gyru hwynt oddi yma i'r ogof greisionboeth acw, sydd yn ochr mynyddoedd tragywyddoldeb, a'u selio hwy yno dan ei ddigofaint yn oes oesoedd. Dinas Duwiau Gwagedd yw lii—gwagedd yw ei chân, gwagedd yw ei chrechwen, a gwagedd yw ei holl bleserau i gyd. Nac edrych arni mwy yn Ddinas y Duwiau, ond yn ei hiawn íiw ei hunan, sef Dinas gwagedd.' Wedi myned o honom i ganol y Ddin- ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN THOMAS THOMAS, CAERLLEON. Ar Werth ynogan J. a J. PARRY, Eastgate-street, lle y maepob Gohebiaeth i'r Cyhoeddwr i'w danfoni yn ddidmui. F