Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DEONGLYDD YSGRYTHYROL; CYLCHGRAWN MISOL- Tn cael ei amcanu i fod yn gyfrwng Gwybodaeth Feiblaidd a Chrefyddol, A wyt ti yn Deall y pethau yr wyt yn eu Darllen.—- Actau VIII. 30. RHWYMYN PERFFEITHR WYDD. Àm ben liyn oll gwisgwch gariad, yr hicn yw rhwymyn perjjeifhrwydd.—Col. iìi. 14. Yn mhlith y lluaws ymosodiadau a wnaed yn ddi- weddar o wahanol gyfeiriadau ar wahanol ranau o'r Beibl, y mae rhai dysgedigion o radd uchel wedi ym- ddangos yn awyddus i wahanu a phellau y herthynas sydd rhwng yr Epistolau a'r Efengylau a'u gilydd. Haerant fod Cristionogaeth yn cael ei chyíieu yn yr Epistolau mewn gwedd cwhl wahanol i'r hyn a feddyl- iodd Iesu Grist ei hun, yn ol yr ystyr a roddant hwy i'w ymadroddion ef yn yr Efengylau. Cyfrifant mai yr apostol Paul a fu yn offeryn yn henaf i ddwyn yr olygwedd newydd dyhiedig ar Grist- ionogaeth. A thra yn arwyddo graddau o foddlon- rwydd mewn cymhariaeth i ddysgeidiaeth Iesu Grist yn y goleu y maent hwy yn edrych arni, gwrthodant yr ystyr a ddyry yr apostol Paul iddi yn ei Epistolau. îîid ydym yn tyhio fod dim yn galw am i ni, yn y tudalenau hyn, droi i ymresymu yn erhyn y golygiadau yna, oddigerth na hyddai yn anmhriodol i ni wrth fyned heibio gryhwyll hyn,—nad yw y gwahaniaeth golygwedd, i ha raddau bynag y mae yn ymddangos, rhwng dysgeidiaeth yr Epistolau a dysgeidiaeth Iesu Crist yn yr Efengylau, ond peth naturiol a rhesymol i'w ddysgwyl yn ngwyneh yr amgylchiadau. Pe na huasai gwahaniaeth huasai llc i ammheu eu dilysrwydd. Er nad oedd ond cyfnod hyr mewn cymhariaeth 0 aniser wedi myned heihio o'r adeg yr oedd Iesu Grist ar y ddaear hyd yr adeg yr oedd yr Epistolau yn cael eu hysgrifenu, yr oedd yn gyfnod a ddygodd 0 amgylch gyfnewidiad dirfawr ar ystad meddwl a theimlad yr Apostolion, a hyddai yn annaturiol i ni heidio dysgwyl arwyddion 0 hyny yn eu hysgrifeniadau. Ehie. 11,—Mehefin, 1876. Pris lc. Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear ni lefarodd Iesu Grist ond ychydig mewn cymhariaeth o hethau neillduol ei Efengyl; ni oddefai ystad meddwl ei ddys- gyhlion iddo wneyd hyny. Dyna fel y dywedodd efe ei hun pan oedd ei weinidogaoth ar fin terfynu,—" Y mae genyf eto lawer o hethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awr hon." (Ioan xvi. 12.) A'r hyn a lefarodd, yr oedd ei ddysgyhlion yn mhell o fod yn eu llawn ddeall hyd ar ol ei adgyfodiad o feirw fel y mae Ioan yn cyfaddef, ac fel y mae yn eglur hefyd yn fynych oddiwrth cu hymadroddion. Fe fu marwolaeth ac adgyfodiad Iesu Grist yn achlysur i roddi gwedd newydd ar hethau, cwhl wahanol i'r hyn yr oedcl y dysgyhlion eu hunain wedi ei feddwl cyn hyny. Gallesid dywedyd wrth hoh un o honynt am lawer o'i ymadroddion " Xi wyddost ti yr awr hon, ond ti a gei wyhod ar ol hyn." Mac hynyna yn gyfrif teg a digonol am yr holl walianiaeth sydd i'w ganfod yn ngolygwedd dysgeidiacth yr Epistolau ìhagor na'r Efengylau. ac yn dangos hefyd fod y cyfryw wahan- iaeth yn heth ag oedd yn rhwym yn ol natur pethau 0 fod i'w dysgwyl. Ond cystal a hyny hefyd yr yd) m i ddysgwyl gweled ynddynt arwyddion o unoliaeth, a hwnw yn gyfryw un- oliaeth na fuasai ffug-awdwyr yn debyg 0 feddwl am dano na'i gynllunio,—yr unoliaeth dirgelaidd hwnw ag sydd yn naturiol a hanfodol i'r gwirionedd ei hun am ei fod yn wirionedd, a'r hwn nas gellir trwy ddyfais ei ffugio. Yr oedd Iesu Grist wedi rhoddi ar ddeall i'w ddys- gyblion ei fod yn gadael y rhan bwysicaf o'u haddysg i weinidogaeth yr Ysbryd Glan,—" Pan ddel efe, sef Ysbryd y Gwirionedd, efe a'ch tywys chwî i bob gwirionedd," ebe efe. (loan 16. 13.) Ac eto nid dechreu gwaith newydd wnai, ond dylyn yn mlaen