Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DEONGLYDD YSGRYTHYROL: CYLCHGRAWN MISOL- Yn cael ei amcanu i fod yn gyfrwng Gwybodaeth Feiblaidd a Chrefyddol. A wtt ti yn Deall y pethau yr wyt yn eu Darllen.---ÁCTAU VIII. 30. HANESYDDIÂETH Y BEIBL. Mae y Beíbl, fel y mae yn hysbys, y rhan fwyaf o lawer o hono yn ltyfr hanesyddol. Yn wir y mae bron i wyd naill ai yn hanesyddol neu ynte yn dal cysylltiad agos ac ahwahanedig a dygwyddiadau hanesyddol. Ar ryw olwg y mae hyny yn ymddangos yn hynod. Gan mai ei amcan yw datguddio meddwl Duw i ddynion, neu ddatguddio trefn wedi ei chynllunio yn meddwl Duw ar gyfer adfer pechadur o'i gyflwr syrthiedig a'i barotoi i etifeddu bywyd tragwyddol mewn sefyllfä ddyfodol, paham ynte y mae yn aros cymaint gyda phethau ar y ddaear, ac yn cael ei wneyd i fynu yn gymaint o hanes dynion a'u hamgylchiadau a'u helynt- ion tymhorol yn y byd hwn ì Yn yr olwg ar y pethau yna, y mae rhai na fynant weled yn y Beibl ddim ond yr hyn a fuasai yn ddigon naturiol i ddynion gael eu tueddu i'w ysgrifenu o honynt cu hunain ac i'w dybenion eu hunain, heb ddim yn oruwchnaturiol i'w harwain. Yr ydym eisoes wedi bod yn cyfeirio at y dosbarth hwn yn y rhifyn cyntaf dan y ponawd—" Dwyfol Ysbrydoliaeth y Beibl." Mae ereill yn amcanu osgoi yr anhawsder drwy geisio gwneyd allan fod gwalianal raddau yn Ysbryd- oliaeth y Beibl—nad ydyw oll bob rhan o hono yn gyfartal ysbrydoledig. Nis gallant weled fod yr un graddau o Ysbrydoliaeth yn angenrheidiol i arwain dynion i gofnodi hanesion am ddigwyddiadau yr oeddynt hwy eu hunain yn hysbys o honynt, neu oedd o fewn cyrhaedd gwybodaeth iddynt drwy foddion Haturiol, a phan fyddai Duw yn ilatguddio yr hyn oedd ynddo ei hun uwchlaw cyrhaedd gwybodaeth ddynol heb ddatguddiad goruwchnàturiol o hono. Mae hyny, neu ynte y mae rhywbeth arall, yn peri Ehif. iii.—Gorphenaf, 1876. Pris lc. nad ydyw hanesyddiaeth y Beibl yn cael edrych arno ond mewn ystyr eilraddol o ran pwysigrwydd o'i gy- mharu a'r hyn a ystyrirgenym yn rhanau athrawiaethol. Mae tuedd yn gyffredin i edrych heibio y rhanau hanesiol gyda thalu \chydig o sylw achlysurol iddynt wrth fyned heibio megis, tra y mae yr holl bwys yn cael ei osod genym ar yr ymadroddion hyny a gyfar- fyddwn yma a thraw yn wasgaredig, ag sydd yn ein cyfrif ni yn ctysgu rhyw athrawiaeth. 0 horwydd hyny nyni a gawn fod y mwyafrif bron yn hynod o ddieithr ac anghyfarwydd jiiewn cymhariaeth yn hanesyddiaeth y Beibl, ae heb deimlo digon o ddydd- ordeb chwaith i wneyd llawer o ymdrech i ddyfod yn fwy hyddysg ynddo. Mae yn amlwg debygem odcliwrth hyn, fel pethau ereill, mai "Mo* fel yr edrych dyn yr edrych Duw." Pe buasai rheswm dynol yn myned i ddyfalu pa gynllun a fuasai yn' gymhwys i Dduw wneyd datguddiad o'i feddwl i ddyn, diau y buasai yn bur wahanol i'r hyn ydyw. M"ae yn dra thcbygol y dewisasid iddo fod yn fath o gorph o dduwinyddiaeth, yn cynwys crynoad manwl a phendant o'r athrawiaethau hyny ag y buasai raid eu gwybod a'u credu i fod yn gadwedig ; y buasai yn ofynol hefyd fod ynddo ddarnodiad manwl ac athronyddol o bob un o'r cyfryw, yn nghyd ag eglurhadaeth gyflawn arnynt yn eu holl gysyllt-! iadau, er mwyn eu gosod allan yn gyfundraeth gyson a difwlch. Ond nid felly yr yclym wedi cael y Beibl. A pha mor ddefnyddiol bynag ydyw i ddynion wneuthur hyny drostynt eu hunain, dylid gofalu na byddo i'r cyfryw gael eu cymerycl genym i wasanaethu ytt lle y Beibl, nac i fod yn achlysur chwaith i ni mewn un modd i'w esgeuluso; ni ddylem foddloni i dderbyn ein gwybodaeth o