Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^r DEONGLYDD YSGRYTHYROL: CYLCHGRAWN MISOL- Tn cael ei amcanu i fod yn gyfrwng Gwybodaeth Feiblaidd a Chrefyddol. A WYT Tl TN DEALL Y PETHAU YR WYT YN EU DARLLEN.----ACTAU VIII. 30. PA BRTD T TERFTNODD GORUCHWTL- IAETH MOSES ì Nis gwyddom yn sier a fu y gofyniad hwn yn ' Uniongyrchol fel hyn dan sylw ein hesbonwyr ai peidio. Kis gwyddom a oes adeg bendant wedi ei nodi allan yn yr hon yr oedd un oruchwyliaeth yn terfynu a'r llall yn dechreu. Nid ydym ninau ar hyn o bryd yn ameanu rhoddi atebiad penderfynol i'r gofyniad chwaith, ond galw sylw at rai pethau a dybiwn yn angenrheidiol eu cymeryd i ystyriaeth cyn rhoddi atebiad penderfynol iddo. Ti oedd goruchwyliaeth Moses, fel yr ydym yn gwybod, yn oruchwyliaeth ddeddfol, hyny yw, yr oedd grym cyfraith yn perthyn iddi, a hono yn gyf- ruith o osodiad Duw. Yr oedd pob luddew yn ddar- ostyngedig i'w hawdurdod, heb aliu ganddo i ymrydd- hau ond fel gwrthryfelwr yn erbyn ei frenin. - Ac fel cyfraith, yr oedd yn rhwym o barhau mewn grym hyd nes i'r " Gosodwr cyfraith" ei hun mewn modd cyhoedd a swyddogol ei galw yn ol. A'r gofyniad ydyw, Pa bryd, a thrwy ba foddion y cymerodd hyny leî Pa bwynt pennodol o amser a ellir nodi yn yr hwn yr oedd yr Iuddewon fel cenedl yn cael eu goll" wng yn rhydd oddiwrth ofynion y gyfraith y buont am gynnifer o ganrifoedd dan ei llywodraeth, a'r hon y bu Duw ar hyd yr oesaú mor eiddigus yn cynal i fyny ei hawdurdod ì Trwy ba foddion hefyd y rhoddwyd y cyfryw hysbysrwydd clir a chyhoedd o hyny ag a fuasai yn galluogi yr Iuddew cydwybodol i fod yn rhydd ei feddwl i beidio cydymfi'uríio mwyach a'i gosodiadau î * Yn ol y dall y byddys weithiau yn siarad gellid easglu mai y syniad ydyw fod Iesu Grist wrth gychwyn ei weinidogaeth gyhoeddus, a dechreu enill dysgyblion Rhifyn 4.—Pris Ceiniog.. iddo ei hun yn bwriadu iddynt ar hyny ymwahanu a llwyr ddarfod ag luddewiaeth, a'u bod o'r cychwyn yn ymffurfio yn eect, neu yn gyfundeb wrthynt eu hunain, ar wahan i'r gref ydd luddewig—fod ymuno â Christ ynddo ei hunan, yn golygu ymadael âg luddewiaeth. Pe felly, buasai eglwysi Cristionogol yn lluosog cyn adeg marwolaeth Iesu Grist. Yr oedd efe wedi treulio tymhor byr ei weinidogaeth yn . ddiwyd i fyned o an> gylch gan wneuthur daioni, wedi enill torfeydd i'w ganlyn a dwyn lluaws i gredu ynddo yn mhob man lle yr elai. Yr oedd hyd y nod nifer yr holl gleifion a iachaodd efe yn lluosog, ac yr oedd y rhai hyny oll yn credu ynddo cyn derbyn iachad, heblaw yr holl luaw* oedd yn llygaid dystion o'i weithredoedd nerthol ef. Aeth y gair ar led yn fuan wedi iddo ddacbreu ar ei weinidogaeth " Fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddysgyblion nag Ioan." Ac yr oedd ei boblogrwydd yn parjiau ac yn myned ar gynydd hyd y diwedd, nes yr ydym yn cael fod ei elynion yn cyffroi, gan ddywedyd, '• üs gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo." Ond nid oedd yn nghorfi' yr amser yna gymaint ag un eglwys Gristionogol wedi ei sefydlu na neb wedi meddwl gollwng gafael o'r grefydd a ddysgodd eu tadau iddynt. Yr oedd lesu.Giist ei hun, a'i ddysgyblion yr un modd, yn parhau' i yniuno â'r holl genedl i gyd-addoli yn ol trefn gwasanaeth y grefydd Iuddewig yn y deml ac yn y synagogau. Ac nid ydym i olygu mai rliyw gydymffurriad arwynebol, mewn enw ac ymddangosiad yn unig ydoedd hwn o eiddo Iesu Grist. liyddai synied felly yn annheilwng am dano. Yr. hytrach na iiyny ni a'i cawn yn dwyn* zel dros gysegredigrwydd y deml. 2STi allai oddef y marchnatwyr a'r newidwyr arian i'w halogi, eithr efe a'u bwriodd allan, gan ddywedyd, "Na wnewch dŷ fy ìshad yn dy marchnad;" a chymhwysir ato yn