Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] GORPHENAF, 1844. [Rhif. 31. ANERCHIAD Y CYN-OLYGYDD AT OHEBWYR, DERBYNWYR, A DARLLENWYR Y BEDYDDIWR. Fy Nghyfciüioa Anicylaidd, Wrth roddi fynu eich gwasanaethu yn y cymmeriad o Olygydd a Chyhocddydd y Bedyddiwr, yr wyf yu teiinlo awydd, yn gystal a dyledswydd, i'ch anerch yn serch- oglawn. Gyda phryder nad anghofìaf y tarewais allan ar yr anturiaeth bwysigfawr o lanw y bwlch a gymmcrodd le yn anrhydedd cyhoeddus yr enwad, 'trwy roddiad i fynu Ystorfa y Bedyddwyr ci- ys tun thair blyneddyn ol; a chydagraddoorfoledd, nad á o'm mcddwl am dalm o amser, hefyd y Uwyddais y tu hwnt i bob dysgwyliad a ragffurfiais. Cafodd Y Gwin Fedyddiwr ei sefydlu gyda chydsyniad mwy cyffredinol o eiddo yr enwad nag a brofwyd yn ngosod- iad i fynu unrhyw Gyhoeddiad rliagíiaen- orol. Teimlais i raddau yn falch am gael bod yn offeryn i sylfaenu Cyhoeddiad trwy gydsyniad mor ddyeithriad. Yr oedd awydd arbenigol yn fy mcddiannu i ddwyn yr enwad i gydweithrediad yn sefydliad y Cyhoeddiad, yr hyn a'm tueddodd i gynyg swm bwysig i berchenog Cyhoeddiad arall, (yr hwn oedd y pryd hyny ar werth,) am roddi fynu ei hawl i'r Cyhoeddiad hwnw, i'r dyben o gael un cyfrwng i'r enwad, yr hyn a wrthododd, a thybiais y gallasai hyny uroi allan yn rhwystr; ond o'r dechreu hyd yn awr, cefais gydweithrediad y tu draw i'm dysgwyliad mewn derbyniad a gohebiaeth. Bydd yn hoff genyf adfeddwl am yr amgylchiadau hyn tra y bydd rhed- iad yn fy ngwaed. Bydd yn hoffus genyf feddwl am fy nghyfeillion a'm cynnorthwyasant â'u go- hebiaethau galluog a dysgedig tra yn fyw. & bydd yn anwylaidd genyf ddàl gohebiaeth bersonol â hwvnt trwv fv oes, a clmlbres- Cyf. III. wylio â hwynt yn nheyrnas ein Tad tu draw i'r bedd. Fel Golygydd y Bedyddiwr, wrth ad- olygu fy ngoruchwyliaeth, yr wyf yn canfod diffygion lluosog wedi llithro heibio o her- wydd lluosogrwydd gorchwylion ereill, ond ar y cyfan, y mae yn liyderus genyf na fu fy llafur yn gwbl ofer ; ond o'r tu arall, o wasanaeth i'r enwad, ac amddiffyniad yr ordinhad, pleidiad yr hon oedd un o'i amcanion sylfacnol. Y mae ynddo draeth- odau anmhrisiadwy ar yr ordinhad o fed- ydd, ac ar yr " eilun bach dilun," yn ei wahanol ffugiantau, yn gystal ag ar byngc- iau gwerthfawr ereill. Yr mae heddwch hefyd wedi teyrnasu o fewn ei dudalenau, fel na fedrir cynnyg cyfrwyo arno, gydag unrhyw gyfiawnder, y cymmeriad a ber- thyn i rai o Gyhoeddiadau y tymhor. Y mae hyn yn werthfawr iawn yn ein golwg. Yr mae ysgrifenwyr y traethodau hyn eto yu fyw, a'r un mor alluog i wasanaethu yr enwad, cred, a'r wlad yn gyffredinol; ac y mae y Bedyddiwr yn aros iddynt eto. Rhoddwch eto o ffrwyth eich lludded er lles y genedl, ac hwylusiad crefydd yr Oen. Dymunol genyf fedru hysbysu fod y Bed- yddiwr yn cael ei drosglwyddo i'm hol- yddion yn gadarn-gryf a iachus o ran ei gylchrediad a'i ohebwyr, fel nad oes dim ond esgeulusdra o du y gweinidogion a'r eglwysi a all beri iddo ddiffodd. Hir oes iddo dyweded pob Bedyddiwr. O berthynas i ddwyn masnach y Bed- yddiwr, yn mlaen, bu yn dreulfawr iawn i mi, ond dewisach oedd genyf ddwyn y draul hòno nâ phoeni yr eglwysi a gwarth- ruddo yr enwad, trwy ddanfon rhyw ddyn- ionach anwybodus a diymddygiad ar hyd a Ued v wlad dan yr enw o gasglwyr vr 2 B