Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. IV.] MAI, 1845. [Biiw.41. SYLWEDD PllEGETH, A draddodwyd ar Neillduad Mr. E. Thomat, yn Neba, Penycae. Gan MR. T. THOMAS, PONTYPWL. 1 Pedb v, 1—4. *• Yt hennriaid sydd yn eich plith, attolwg iddynt yr ydwyf fi," &c. Y mae yn yr adnodau hyn dri pheth sydd yn galw am ein sylw difrifolaf. Natur y swydd henuriadawl—y Modd y dylid gweinidogaethu ynddi—a'r Wobr addaw- . edig i swyddogion ffyddlawn. I. Natur t Swydd Henub.ia.dawl. I'r dyben i gael golwg gywir ar y swydd hon, sylwn ar gymeriad y swyddogion, gwrthrychau eu gofal, a'r gwaith sydd i'w gyflawni, 1, Cymeriad y swyddogion, "Henur- iaid." Defnyddir y gair hwn yn aml yn y Testament Newydd mewn cyfeiriad at swyddogion yr eglwysi Cristnogol. Y mae iddo ystyr helaethach mewn rhai manau nag ereill; a chynwysa yr amryw- iol swyddau a berthynent i bethau ysbrydol yr eglwysi cyntefig, o'r apostolaeth hyd at yr esgobaeth, (gwel ad. laf o'r testun, 2 Ioan i, 1 Tim. iv, 14,) ac efallai hyd at y ddiaconiaeth, 1 Tim. v, 17. Ond pan y cyfeirir at un gradd neillduol o swyddogion, y mae y gair henuriaid bob amser yn dynodi y cyfryw ag sydd wedi eu dewis gan yr eglwysi i'w dysgu a'u llywodraethu yn yr Arglwydd. Yr un rhai a elwir hefyd yn esgobion neu olygwyr, blaenoriaid, bugeiliaid, ac athrawon, Act. xx, 17, 28, Tit. i, 5, 7, a Epîies. iv, 11. Y cymhwysderau gofynol yn yr henuriaid a osodir allan gan yr apostol Paul yn 1 Tim. iii, 1—7, a Tit. i, 5—9. Yn ol yr addysgiadau %n a'r cyffeiyb, rhaid i'r henuriaid, yn anad neb, feddu «ymeriad moesol gloyw, a difrychau; bod "yn ddiargyhoedd" yn eu hymddygiadau cyff- reÜB, "yn cael gair da gan y rhai i»vdd Cyf. IV. oddiallan," acynmeddu " enw da, yr hwn sydd well nag ennaint gwerthfawr." Rhaid iddynt fod "yn weddaidd, yn sobr, yn gyfiawn, yn santaidd, yn dymherus (neu gymedrol)—Nid yn wingar (neu yn diotta,) nid yn darawydd, nid yn budr-elwa, nid yn gyndyn, nid yn ddigllon; ond yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar, ac yn lletygar, fel goruchwylwyr Duw." Gofynir iddynt ymgadw rhag pob rhith drygioni, a bod yn "siamplau i'r ffyddloniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb." Mewn cysylltiad â'r rhagoriaethau 'moesol hyn, angenrheidiol yw fod ganddynt alluoedd meddyliawl da, gwybodaeth helaeth o bethau Duw, a dawn i egluro eu meddyliau er dysg, argyhoeddiad, cerydd, a chysu'r eu cyd-ddynion. 2, Gwrthrychau gofal yr henuriaid "praidd Duw," ac " etifeddiaeth (etifeddiaethau) Duw." Yn unol â hyn y darlunia Paul y gynulleidfa Gristnogol yn Ephesus fel " eg- lwys Dduw yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed," Act. xx, 28. Y mae y Pen Bugail yn honi hawl i'r holl gredinwyr fei ei ddefaid ei hun, dros y rhai " y rhoddodd efe ei einioes." Hwynthwy ydynt "ryw- pgaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl santaidd, pobl briodol i Dduw." Yr eglwysi, ac nid eu golygwyr yn unig, ydynt braidd ac etifeddiaeth Duw; ac nid ydynt wedi eu gwneud er mwyn yr henur- iaid, ond yr henuriaid er eu mwyn hwynt. Nid ydynt, gan hyny, i gael eu dirmygu a'u sathru gan neb, yn enwedig eu swydd- ogion eu bunain; ond eu diogelu, ä'h paichu, a'u caru, fel gwrthrychan g»fal