Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. IV.] TACHWEDD, 1845. [Riiif. 47. PROFION SEFYLLFA DDYFODOL 0 HANFODIAD, YN CAEL EU TYNU ODDIWRTH GYFANSODDIAD MOESOL A DEALLOL DYN. A ddarllenwyd gergwydd Cyfeisteddfod Coleg y Bedyddwyr yn Nghaerodor, Maihafin20ed,1845. Gan DAYID EYANS, Gynt o Gilfowir. Mae yn wirionedd o bwys a budd neill- duol fod Bod mawr, deallus a moesol; Creawdwr a Chynhaliwr y bydysawd; ond er mor ogoneddus a phwysfawr yw y ffuith, collai lawer o'i werth, pe na byddai genym le i obeithio ei fod wedi ein bwriadu i sefyllfa arall o fodoliaeth. Ond trwy ei dirionwch a'i drugaredd, mae wedi gweled bod yn dda ein cynysgaeddu â phrofion, yn y byd moesol yn gystal a'r byd deallol, o hanfodiad y fath sefyllfa; a dyben y traethawd hwn yw chwilio mewn i rai o'r profion hyn. Wrth ganlyn y pwngc hwn, ni fwriedir appelio at ddadguddiad i hrofi unrhyw ffaith ; ond i gyfyngu ein hunain yn hollol wrth y cyfryw brofion ag a gynysgaeddir gan ein natur ddeallol a moesol. Dylid cofio y rhaid fod ymresymu ar y* fath bwngc yn wahanol oddiwrth yr hyn a berthyna i wirioneddau celfyddydau rhif a mesur ac anian; nis gall gyrhaedd i brawf. Mae gosodiad mathematieaidd i'w ganfod yn hollol gywir, neu yn hollol ang- hywir. Mae gwirionedd naturiaethol yn cael ei brofi yn gyflawn neu yn rhanol gan dystioliaethau y synwyrau, a chy belled a hyny y mae yn hollol gywir.; ond yn yr achos presenol, rhaid i ni ymfoddloni ar debygau. Wrth ymdrin â'r pwngc hwn, mae amryw wedi ymdrechu dangos, oddiwrth natur yr enaid, fel sylwedd difater, y rhaid fod sefyllfa ddyfodol. Ond ymddengys yn an- noeth i osod prawf o athrawiaeth mor bwysig yn ei chanlyniadau ar yr hyn a yatyrir gan lawer yn bwynt anmheus. Ac CYF. IV. ìíì byddai yr ymresymiad yn benderfynol pe eaniateid ei annefnyddioldeb, yn gymaint a'i bod yn anhawdd i ganfod fod annef- nyddioldeb o angenrheidrwydd yn cynwys anfarwoldeb. Wrth ymdrin à'r pwngc hwu bydd yn briodol i gyfeirio at rai o'r teiml- adauhyn, cynneddfauadymuniadau natur- iol i ddyn, pa rai a ymddangosant fod yn ddiddefnydd, neu heb fod mewn cydgord- iad â gweithredoedd ereili Duw, os nad oes sefyllfa ddyfodol. " Yn y byd naturiaethol," meddai ysgrif- enydd enwog, " yr ydym yn canfod pob peth yn ymateb i bob peth, mewn cywir fesur a gradd: achosion ag ydynt hynod gymhwysedig at effeithiau. Mae gallu- oedd y goruchwyliwr yn cytuno yn rhy- feddol â derbyngarwch y goddefydd. Mae cydgordiad perthynas yn weledig yn mhob man ; os bydd unrhyw annhrefn neu ang- hyfartaledd yn ymddangos, yr ydym yn cael nad yw ond achlysurol ac amserol. Mae genym ddigon o brawf i'n hargyhoeddi nâ fwriedid ef yn gyffredinol neu barhaus. Yr ydym yn cael yr unrhyw addasiad rhagorol yn y greadigaeth fywiol. Mae pob peiriant yn gyfaddas i'w swydd ; mae gan bob awydd ei foddhâd." Yn awr, od edrychwn ar gyfansoddiad dyn yn y golyg- iad hwn, yr ydym yn ei gael mewn ystyr- iaethau yn wahanol, oddiwrth yr hyn a ddysgwyliem ei fod, fel cynyrch yr un Uaw, od yr un bresenol yw unig sefyllfa bodol- iaeth dyn. Gadewch i ni gyfeirio at deimlad ag sydd yn naturiol i bob dyn, sef arswyd '..... Fod dyn yn arswydo difodiad 2 S