Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] CHWEFROR, 1846. [Rhif. 50 TROEDIGAETH YR EUNUCH. Gan E. EYANS, Penygaun. Yn amgylchiad mwyaf dedwydd a man- teisiol a ddichon gyfarfod â dyn yn ci fj w- yd, ydyw ci dröedigaeth at Dduw: mae yn fanteisiol iawn iddo yn ci fywyd, 'ond yn lil mwy manteisiol iddo erbyn marw a byd arall. Nid ydyw cyfnewidiad pob pechadur yn cymeryd lle yn yr un modd, ond y mae cyfnewidiad pob pechadur, yr un o ran ei natur, gweithredir ef gan yr un Duw, a dilynir ef gan yr un effeithiau. Cyfnewidiwyd Lydia, ceidwad y carchar, Saul o Tarsus, a'r Eunuch, nid yn yr un dull, ond yr oedd eu cyfnewidiad liwynt oll, o ran ei natur yr un, o ran ei awdwr yr un, ac o ran ei effeithiau yr un. Maent yr hanesion sydd genym yn y Bibl am dro- edigaeth pechaduriaid at Dduw, yn addysg- iadol iawn i ni, ac felly troedigaeth yr Eunuch, hanes yr hwn a geir yn Actau j r Apostolion, pen. viii. Estron oedd y dyn hwn o ran cenedl, nid gwr o Iuddew oedd efe, ond "gicr o Ethiopia," brodor o Ethiopia yn Aífrica oedd efe. Dywedir mai Cus y gelwid y wlad hon gynt ; yno y trigai y Cusiaid, hiliogaetk Cus, mab iiynaf Cam, ac ŵyr Noah. Cyfieithwyd yr un i'r Groeg gan y LXX yn Ethiopia, ond Abyssmia y gelwir hi yn awr. Galwyd y wlad hon yn Ethiop- ia oddiwrth liw ei thrigolion ; a dyn melyn- ddu o ran ei groen oedd y gwr hwn. Gof- ynwyd unwaith, " A newidia yr Ethiop ci groenV Nis gall yr Ethiop newid ei groen, mwy nag y gall y llewpard newid ei frychni, ond fe all Dduw newid ei galon. Mae rhai prophwydoliaethau ysgrythyrol a'u golwg yn uniongyrchol ar Ethiopia. " O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddiwyt fy offrwm—Ethiopiaf a e$tyn ei dwylaw yn brysur at Dduic." Yr óedd troedigaeth y gwr hwn o Ethiopia yn ddechreuad cyflawniad y prophwydoliaeth- au hyn, ac yn ernes y bydd i'r Arghrvdd CYF. V. ymweled yn rasol á'r wlad hon, a dwyn o honi waredigion newydd i Sîon. Yr oedd y gwr hwn, o ran ei swydd, oradd uchel, "■Eunuch gaüuog dan Candace, brenhinesyr Ethiopiaid, yr hicn oeddar ei holl drysor hi." Dywedir fod yr Ethiopiaid gynt yn caeleu llywodraethu gan frenhines- au ; abarn rhai ydyw, mai un o'u brenhincs- au hwy oedd hono a ddaeth i weled doeth- ineb Solomon, gelwir hi yn " Frenhines y deheu," ac o du deheu i'r Aipht y gorwedd Ethiopia, ac enw cyffredin eu brenhinesau oedd Candace, fel yr oedd Pharoah yn enw cyffredin ar frenhinoedd yr Aipht, Abime- lech yn enw cyffredin ar frenhinoedd y Philistiaid, Agag ytj enw cyffredin ar fren- hinoedd yr Amaleciaid, a Cluesar yn enw cyffredin ar yr Ymerawdwyr B,hufeinig. Yr oedd enw y brenin neu y frenhines gyn- taf yn cael ei drosglwyddo i'w holynoiion. Yr oedd y gwr hwn yn swyddog uchel yn llys Candace, brenhines Ethiopia, Efe oedd ar ci holl drysor hi. Yr oedd yn ddyn o awdurdod mawr, ac o ymddiried helaeth ; ymddiriedai y frenhines y cwbl iddo, efe oedd ar ei holl drysor hi, efe oedd ei Lord trcasurer hi. " Eunuch" galluog y gèlwir ef, feallai ei fod effelly o ran ei gorph, ond yr oedd ef felly yn sicr o ran ei swydd. Cyfieithir y gair eunuch weithiau yn y Bibl yn Dywysog, yn ystafellydd, a swj ddog ydyw y gair a arferir am dano yn yr adnod hon, yn yr " Oraclau bywiol." Efe oedd Chamberlain, ystafellydd a gor- uchwyliwr Candace. Mae crefydd yn cyf- ateb y gwŷr mawr, ac y mae rhai bonedd- igion yn cael crefydd. Nid Uàwer o rai galluog a ahcyd, ond y mae rhai yn cael eu galw, ac yn eu plith yr cunuch " galluog" liwn. Fel crefyddwr, yr oedd yn brosclyt i'r grefydd luddcwig, wedi dyfod i addoli i un o'r gwyliau bljncddol yn Jerusalem^ yr