Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] MAI, 1846. [Riiif. 53. BYE GOFIANT Y DIWEDDAR WILLIAM ENIBB, O JAMAICA. " Revolving his mysterious lot, I tnourn hitn, but I praise him not, To God the praise be given; Who sent him lihe the radiant bow, His cooenant of peace to show, Athwart the passing storm to glow, Then tanish into heaven." Wili.IamK.nibb—yr y'm yn ei alw ef felly, oblegid fod mawredd a pharchus- rwydd ei enw ef yn argraftedig ar ei weith- redoedd gorchestol a lluosog, ac nid mewn llu o ansaAvdd-eiriau chwyddedig, y rhai ynt yn perthyn i ddynion cyffredin. Gan- ed William Knibb yn Kettering, yn swydd Northampton ar y 6ed oFedi, 1803. Yr oedd yn efell i chwaer anwyl, yr hon sydd yn awr yn fyw i alaru ar ei ol, yr hon a ddywed am dano, " Fel brawd, nid oedd ond ychydig i'w cydmaru ag ef, a neb yn rhagori arno." Cafodd ei eni a'i ddwyn i fyny gan rieni crefyddol iawn, ac er mor fawr yr oedd ei fam yn caru ei phlant anwyl, dyma a ddywedai wrth un o'i merched pan oedd William yn ymadael â hi y tro diweddaf, " dyma yr olygfa ddiweddaf hyd ddydd y farn." Ond er mor hoff oedd ei mab, hi a'i rhoddodd i fyny yn llawen i wasanaeth ei Arglwydd, megis Abraham ag lsaac. Dwy flynedd cyn hyn yr oedd ei frawd, Thomas Knibb wedi myned allan i Jamaica yn yr un gwasanaeth, ac ar ei ymadawiad y dywedai wrth gymaru ei pharch i achos Duw a'i pharch at ei mab hoff, "Os na chwenychaf di,Jerusalem,ynfwy nâ'm piif orfoledd, anghofied fy neheulaw ganu." Yr un parch goruchel i hawliau y Ceidwad a ddangosai pan yr ymadawodd William, er mai mab hoff ganddi oedd, eto dywedai ar ei ymadawiad, " Dos, fy mab, a gwell fyddaì genyf glywed fod y llong wedi soddi, Cyf. V. nâ'th fod yn cael byw i dynu gwarth ar yr achos bendigedig." Suddodd y geiriau hyn yn ddwfn i'w galon, " a gwisgais hwynt," meddai ein gwron, " fel swyn- gyfaredd (amulet) trwy fy oes, a thrwy fendìth Duw, buont yn foddion i'm cadw mewn llawer profedigaeth." O ! mor werthfawr yw rhieni duwiol ac addysg famol—cafodd y fath effaith ar William Knibb, fel nad allodd amser, pellder, nac amgylchiadau ei ddileu. Coffhäai am hy- fforddiadau ei fam gyda brwdfrydedd mawr yn aml; a phan fu y terfysg yn Jamaica yn 1832, pan oedd efe tan attafaeliad ac yn dysgwyl cael ei brofi am gyhuddiadau ag oeddent yn bygwyth ei fywyd, ac nid oedd yn dysgwyl fawr o gyfiawnder, na dim trugaredd oddiwrth ei elynion, ac edrychai am farwolaeth greulon oddiwrth ei elynion fel peth, braidd, anocheladwy iddo, y pryd hyn yr oedd ei ofal yn fawr am ei fam fel ag yr ysgrifenodd lythyr toddedig ati trwy law cyfaill, yn sicrhau iddi os mai ei farwolaethu gawsai, y cawsai farw yn ddi- euog o neb o'r cyhuddiadau ag oeddent yn cael eu dwyn yn ei erbyn, (sef ei fod yn cynhyrfu terfysg). Ond gwaredodd yr Arglwydd ei fam dduwiol rhag y gofíd hyny trwy iddi gael ei syinud i'r nef, lle yr oedd ei " Dyst" a'i goffadwriaeth uchod. Y prif nodweddau a hynodent ei ddydd- iau boreuol oeddent, caredigrwydd, hael- ioni, trefn, cynildcb ynghyd a bywiog- rwydd mawr. Yr oedd yn hoff iawu gan