Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] CHWEFROR, 1847. [Rhif. 62. CYFLAFAN BETHLEHEM. ' Llef a glybuwyd yn Iìama, galar, ac wylofain, ac ocbain mawr, Rahel yn wylo am ei phlant, ac ni fynai ei cbysuro, am nad oeddynt." Pwy feddyliai pan y mae y plentyn yn gwenu nior ddiniwed ag angel wrth sugno bronau ei fam, ei bod yn rhoddi sugn i Jeroboam fab Nebat? Pwy feddyliai wrth weled y bachgenyn yn myned yn llaw ei dad tua'r glas-fryn, yn rhecleg o flodeuyn i flodeuyn mewn llonder, ei fod yn tywys Pharaoh yn holl ysgelerderau ei gymeriad gydag ef i Pwy feddyliai wrth weled y llangc yn orlawn o bob teimladau caredigol, ei fod yn canfod Herod yn holl ahghenfìl- eidd-dra ei natur yn sychedu am waed gwirion? A all dyn droi allan yn ddryg- ionus? A all dyn a luniwyd ar ddelw ei Wneuthurwr, ac a bennodwyd yn llywodr- aethwr ar holl anifeiliaid y maes, droi yn anghenfìl mewn natur a moes? A all dyn, yr hwn sydd dan rwymau anghyfnewidioí ei ddyledswydd at ei Grewr ac at ei gyd- greaduriaid," sathru ar deimladau goreu y natur, ac ymddwyn yn mhob ystyr fel diaboloniad a fyddai wedi cael caniatàd i ymgnawdoli, a rhyddid i wneuthur y ddaear mewn echryslondeb mor debyg ag a ellai i uffern? Gall dyn, ac y mae dyn wedi gallu gwneuthur pob niweidiau a all calon lygredig dyn eu dychymygu. Mae hanes cymeriad dyn wedi ei ysgrifenu mewn llythyrenau annileadwy; mae ei ddrygioni, ei dwyll, ei halogedigaeth, yr adfyd a achosodd, yr ochain a'r ingoedd a achlys- urodd, y creulonderau a gyflawnodd, a'r Uifeiriant gwaed gwirion a dywalltodd, oll wedi eu croniclo mewn ffyddlöndeb a chywirdeb, ac yn brawf fod dyn i fyny â phob drwg. " Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr;" pa beth yn enw y nefoedd sydd wedi cymeryd lle, fel ag i achosi yr holl alar, yr wylofain, a'r ochain hwn? Mae teyrn ffrom-falch Babel wedi bod yn nheyrnas Juda; mae bechgyn grymus Benjamin, a gwyryfon prydweddpl Ephraim yn cael eu harwain gan y creuloniaid i dŷ y caethiwed yn ffordd Rama, ac y mae Rahel yn mhersonau eu mhamati yn llefain vn chwerw o'u Cyf. VI. plegid; yn galaru yn anobeithiol o'u gweled byth ond hyny; yn wylo,—'ie yn wylo nes ydoedd eu calonau yn rhedeg o'u llygaid gyda'r dagrau, wrth edrych arnynt yn troi eu cefnau ar etifeddiaeth Jacob; ac yn ocheneidio yn drwm, digon i effeithio ar fryniau Canaan, a pheri iddynt drydar, a digon i beri i gedrwydd Libanus ganu galarnad wrth weled blodau Juda a Ben- jamin, a rhosynau mynydd Ephraim yn cael eu gyru tua'r Euphrates. " Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wyloíain, ac ochain mawr;" pa beth sydd yn bod felly tua ffordd Bethlehem? Pa gyflafan sydd wedi cael ei chyflawni, pan mae y^ fatli lefain, y fath alar, y fath wylofain, a'r fath ochain mawr i'w clywed drwy yr holl ardaloedd? A ydych ddim yn gweled cleddyf Herod yn diferu gan waed? A ydych ddim yn clywed yr ergydion ang- heuol yn cael eu rhoddi? A ydych ddim yn gweled gweinidogion ei eiddigedd a'i gynddaredd yn rhedeg o dý i dý ag agwedd lofruddiog yn eu gwedd ? A ydych ddùn yn gweled y niferi plant drwy holl ardal Bethlehem yn welw yn angeu, wedi eu torfynyglu wrth arch y gormeswr? Ychydig a byr ydyw yr hanes am Herod yn yr Ysgrythyr Lân, ac anfynych y mae gair y Gorucíiaf yn sefyll yn hir gyda chymeriadau ysgeler o'r fath ag ydyw ei gy- meriadef, oblegid y mae yn tori yn fyr hanes y r annuwiol, gan nad pa mor fawr, mor uchel, acmor Uwyddiannus yr oeddynt yn ngolwg y byd: ond o'r tu arall, yr ydym yn cant'od manylrwydd mawr yn yr hanes ysgrythyrol am gymeriadau cyffèlyb i Abraham, Isaac, Jacob, Joseph, Moses, Dafydd, ac ereill o enwogion y nefoedd ar y ddaear. Eio, y mae sefyll gyda, ac olrhain cymeriadau dynion drygionus weithiau yn ftiddiol; nid i'w dàl fel gwrthrychau i'w hefelychu, ond i'r dyben i'w ífieiddio, a chydag amcan i'w' dwyn i gilio rhag, a ffieiddio drygioni, ac i barchu y da, a dilyn gwneuthur pob daioni hyd derfyn ein hoes. Yr oedd Herod yn ddiau