Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Çyf. IX.] MEHEFIN, 1850. [RniF. 102. ANERCHIAD AT GORFF ENWOG YR ANNIBYNIAID YN NGHYMRU. (Yr Ail Ddosbarth). Anwyl Gyd-bererinion,—Yr. niwedd y Dosbarth Cyntaf o'm hysgrif, addewais, os byw ac iach fyddwn, y byddai i chwithau gael eich tocyn yn gyfan ac yn gryno yn y Rhifyn hwn. Wrth ddechreu ysgrií'enu, nid oedd genyf y bwriad Ileiaf i helaethu ar achosion yr eglwysi Pabyddol, Esgobaethol, Henaduriaethol, na Threfnyddol; eithr wedi dechreu bwrw golwg arnynt, profais mai anhawdd oedd myned heibio i'r naill na'r llall heb olrheinio ychydig ar yr hylidod o ffieidd-dra sydd yn gysylltiedig â'u cyfundraethau. Fy amcan oedd, yn unig eu crybwyll yu fyr mewn tfordd o arweiniad i mewn atoch chwi. Chwi oedd genyf mewn golwg wrth.ddechreu; ac oni buasai fod genyf olwg uchel arnoch chwi fel cortf o grefyddwyr, ni fuaswn yn ei ystyried yn werth. i mi ysgrifenu llinell ar yr achos. Yn awr, gobeithiaf, anwyl frodyr, na feddylia neb o honoch fod genyf y ticynyn lleiaf o ragfarn yn eich erbyn fel enwad o grefyddwyr; na, meddwl yr wyf y gallaf ddweyd yn ddihoced mai pell iawn ydwyf oddiwrth hjny; ac mai, os oes pleidiaeth yn yn bodoìi ynof oll, pleidiaeth trosoch ac nid yn eich erbyn ydyw. Mae genyf y parch mwyaf cleuol i chwi, fel cyd-ymdrechwyr ffyddlon yn mhlaid y ffydd ; o'm ieuenctyd yr wyf wedi cymdeithasu ddengwaith mwy â_ chwi nag á neb ereill, ond fy mrodyr Bedyddiedig yn unig; ac wedi arfer bob amser eich hystyried yn un o'r enwadau. blaenaf, os nid y blaenaf oll, fel athraioon, a phobl ynghyd,,, o fewn taleithiau Cymru a Lloegr, yn enwedigol yn eich gwybodaeth a'ch hyddysgrwydd yn ngwahanol egwydd- orioh ac athrawiaethau y grefydd a broffesir genym oll. Hyn sydd yn fy ngalluogi i obeithio y dichon fy Anerchiad, er eiddiled ydyw, fod o ryw lês yn ei ganlyniadau* Pe buaswn yn amcanu ei gyfeirio at un o'r ddau Gorff Trefnyddol, buaswn yn llafurio dan deimladau o anobeithion trymach ar y pwnc; a hyny yn benaf o herwydd mai Fmddibyniaid ac nid J?n<mddibyniaid ydynt. Ymddibynu a wnant hwy ar rywbeth nesaf i anffaeledigrwycM yn nhadau cyntaf eu henwadau, yn gystal ag ar ddeall digy- ffelyb, a didwylledd anllygradwy y rhai mewn Cynhadledd a Iywodraethant arnynt; pryd mewn gwirionedd mae y rheini mor llawn o hunangarwch a phleidiaeth eu hunain, fel, yn lle eu goleuo yn y pethau hyn, y gwnant hwynt yn fwy rhagfarnllyd nag o'r blaen; ac na oddefant iddynt er dim i dreiglo a barnu drosynt eu hunain reolau sylfaenol eglwys Crist, rnegis y ceir hwynt yn y Testament Newydd. Eithr nid felly y mae pethau yn eich plith chwi, frodyr; canys yr ydych chwi i raddau mawrion wedt dod allan i diroedd hyfrydol Annibyniaetn; fel nad oes na Chynhadledd, na Synod, nac Esgobaethyddiaeth, na Llywodraeth, na dim arall a aü eich attal i farnu trosoch eich hunain. Ond oh, frodyr, nid heb deimlo drosoch yr wyf yn gorfod dywedyd fod Pabyddiaeth trwy nerthoedd a dyfnderau ei dichellion wedi medru estyn allan ei llaw ddinystriol, a hyny trwy holl ddyrusni Lutheriaeth, Henaduriaeth, ac Esgobyddiaeth, a gosod am eich traed chwithau un >>'r llyfetheiriau cryfaf a thrymaf yn ei helw. Gellid meddwl fod yn amhosibl i chwi ddarllen hanes Cristnogaeth o'r drydedd gannrif i lawr hyd heddyw, heb weled yn amlwg mai Bedydd Babanod sydd wedi bod, ac yn parhau bod, yr un Ilyfethr mwyaf dinystriol i Annibyniaeth eglwysig a phersonol a ddyfeisiwyd erioed gan anghrist. Na feddylied neb o honoch fy mod yn dywedyd hyn megis un yn ceisioeicb iselu a'ch gorchfygu mewn dadl; canys mor belled ag yr wyf yn fy adnabod fy hun, nid oes ynof y duedd leiaf i'r naill na'r llall. G wir yw, mi fum pan yn ieuanc, fel y rhan amlaf o blaut dynion yn yr oedran hwnw, yn coleddu Uawer gormod o falchdër :énẃadol, a chyda Dafydd yn rhy barod i rifo y bobl; ond yn awr er ys blynèddàu, mae y pethau hyny wedi cilio ymaith i blith fy mhethau bächgenaidd. Beth jm enẃad, fel y cyfryw, yn awr i ni% Pa elw i mi ar fin fy medd fyddai eich gweled'jn troi bob énaid o honoch yforu yn Fedyddwyr! Pa leshad, pafudd, pafodd- lonrwydd! Dim o'r dimeddyn ìleiaf, ond yn unig y boddlonrwydd o weled fod gair yr Cyf. ix. x • "... ^í^ .