Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyp. XI.] TACHWEDD, 1852. [Rhif. 131. DTFODIANT T BEDTDDWTE. (The Future of the Baptista.) Gam J. M. CRAMP, D.D., Acadu College. " Y mae dyfodiant i'r Bedyddwyr." Y rhai hyn ynt eiriau yr enwog Dr. Krum- macher, o Germani, y llynedd wrth y brodyr J. H. Hinton, a Dr. Steane o Lun- dain, ar eu hymweliad â'u brodyr Bedydd- iedig ar y Cyfandir. Maent yn eiriau tra chynwysfawr ac awgrymiadol. Beth yw "mynedol" y Bedyddwyrl Onid yw eu hanes yn dra addysgiadol a chefnogol î Y mae yn dweyd am ym- lyniad diamodol wrth air Duw, yn wrth- wyneb i bob gosodiadau traddodiadol. Y mae yn mynegu am ymostyngiad parchus i orchymynion y Ceidwad, gan wadu pob awdurdod i ychwauegu at, tynu oddiwrth, na chyfnewid dim o'i bethau ef, ac yn anrhydeddu penogaeth uchafol Pen mawr yr eglwys. Y mae yn dangos dadleuad cyson a pharhaus dros grefydd ysbrydol a phersonol—ymroddiad personol a gwir- fbddol y galon i Dduw mewn edifeirwch a ffydd, yn egluredig trwy broffes gyhoeddus o hono. Y mae yn dweyd am gynulleid- fäoedd o gredinwyr bedyddiedig, wedi eu ffurfio yn ol gosodiad yr unig Benaeth, yn cario yn mlaen eu llywodraeth a'u haddol- iad wrth ei ddeddfau ef, ac yn ymdrechu dangos ysbryd Cristionogaeth yn ngwas- anaeth eu Meistr. Dyweda am wirion- eddau efengylaidd, o blaid y rhai yr ym- drechasant yn íFyddlon, ac am addewidion mawr iawn a gwerthfawr, o ba rai y tyn- asant eu cysuron. Y mae yn dweyd am eu hymdrechion o blaid rhyddid, eu hym- resymiadau dros hawl annhrosglwyddadwy dyn i feddwl a gweithredu drosto ei hun mewn pethau crefyddol, ac hefyd eu gwrth- wynebiad i awdurdod dynol mewn pethau crefyddol, fel yn groes i hawliau cyfiawn y Goruchaf, a chyfrifoldeb bodau deallol iddo ef. Dyweda am eu gwrth-dystiadau penderfynol i ormes a thraws-feddiant Uywodraethau daearol, ac yn neillduol i undeb yr eglwys a'r wladwriaeth, yr hyn y maent bob amser wedi olygu yn fastardd- aidd, ansantaidd, gormesol yn ei weinydd- iadau, a dinystriol i bob plaid yn ei ddy- lanwad. Mae mynedol y Bedyddwyr yn CVF. XI. dangos cofres hir o dystion i'r gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, y rhai ni chiliasant yn ol rhag tlodi, caledi a dyoddefiadau, na rhag " profedigaeth trwy watwar, a fflan- gellau,- 'ie, trwy rwymau hefyd a charchar;" ac mewn miloedd o amgylchiadau rhodd- asant i lawr eu bywydau yn llawen, yn hytrach nâ cholli y ffydd a gwadu eu Harglwydd. Y mae yn dweyd am ryddid cydwybod yn cael ei hawlio gan bob dyn, ond heb un engraifft iddo erioed gael ei wrthod gan Fedyddwyr i neb. Yn y dyddiau diweddaf hyn y mae yn dangos i ni lechres odidog o Genadiaethau Cristion- ogol, a gweithredoedd mawrion a llwydd- iant rhyfeddol yn eu dilyn. Cymaint a hyna am fynedol (past) y Bedyddwyr. Beth yn awr yw agwedd yr amserau presenol! Mewn llawer ystyr y maent yn dra chefnogol, ac ni ellir meddwl am danynt heb deimlo diolchgarwch i Dduw am danynt, oblegid y mae gwaith yn myned yn mlaen yn awr, ag sydd yn addaw can- Iyniadau gogoneddus. Ni fu dysgeidiaeth erioed mor flodeuog—mor helaeth ac mor gywrain yn y cyfraniad o honi ag yw yn awr ; y mae yn bendithio ÿ bwthyn yn gystal a'r palas, yn goleuo a dyrchafu y meddwl, ac yn ei waredu o afaelion dylanw- adau niweidiol. Meithrinir y gwyddonau gyda brwdfrydedd digymhar, ac y mae eu llesoldeb ymarferol yn lluosogi ein cysuron a'n cyfleusderau yn ein holl aneddau. Mae gair Duw, wedi ei gyfieithu i brif ieithoedd y byd, yn gwasgaru hadau gwir- ionedd Dwyfol yn mhell ac agos. Mae eglwysi Cristionogol wedi eu sefydlu o fewn yr haner can' mlynedd diweddaf yn agos yn mhob gwlad baganaidd, y rhai ydyntfel cynifero wersyllfaoedd cryfion yn nhiriogaeth y gelyn, yn cyhoeddi dechreu- ad brwydr ysbrydol, yr hon sydd i gael ei chario yn mlaen yn barhaus hyd gyflawn fuddygoliaeth. Mae yr arwyddion hyn o'r amserau, yn gystal ag ereill a ellid nodi, yn dangos gwelliant a llwyddiant. Ond y mae llawer o wrthwynebwyr. 2 s