Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWE. Cyf. XIII.] MAI, 1854. [Rhif. 149. COFIAHT Y PAECH. GEIFFITH JONES, GYNT O LANDDOWllOR. Ganwyd y Parchedig Griffiih Jones o deulu crefyddol a pharchus yn mhlwyf Cilrhedin, yn swydd Gaerfyrddin. Bu ei dad farw pan oedd yn ieuanc, a holl ofal ei ddjgiad i fyny yn panlynol oedd yn'gor- phwys ar ei fain. Dangosodd yn foreu fywiogrwydd cynneddfau, ac awyddfryd i ddysgu. Gwedi bod yn ei febyd inewn ys^ol yn y wlad, anfonodd ei fam ef i fod danaddysg athrawdysgedig yn mhrif-ysgol yn nhref Caerfyrddin, lle ycynnyddodd yn fuan mewn gwybodaeth helaeth o'r ieith- oedd Groeg a Lladin, er ei fod dan yr an- fantais o feddiannu corff lles» ac egwan. Ymddangosodd sobrwydd neillduol ynddo yn yr amser hwn ; a byddai arferol yn aml p dýnu o'r neilldu i weddi a myfyrdod, yn lle dilyn y difyrwch a'r oferedd a hudant, a Iygrant, ac a faglant y rhan fwj af o ieu- enctyd y byd. Dangosodd yn fuan duedd- iad cryf i waith y weinidogaeth, er ei fod bob amser yn golygu y swydd o'r pwys a'r canlyniadau mwyaf. Cafodd ei urddo yn ddiacon gan y dysgedig Esgob Bull, Medi 19, 1708; a chafodd ei gwbl urddau gan yr un Esgob yn Nghapel Aber-marlais, Medi 25, 1709. Ymddygodd yr esgob yn dra thirion tuag ato ; rhoddodd iddo lawer o gynghorion ac addysgiadau buddiol, ac yr oedd Mr. G. Jones yn coleddu pirch mawr yn ei feddwl tuag ato o'r herwydd tra y bu byw. Cyflwynwyd iddoBerigloriaeth Llandilo- Abercowyn, Gorphenaf31, 1711. Llan- ddowror a gyflwynwyd iddo Gorphenaf 17, 1716, gan Syr John Philips, o Picton Castle, yn awydd Benfro. Bu Mr. G. Jones yn briod à merch i Syr Erasmus Philips, hanner chwaer i Syr John Philips. Bu farw Mrs. Jones, yn y flwyddyn 1755, yn 80 oed. Wrth ei Iythyrau yr wyf yn casglu y byddai hi yn aml yn afiach, ac y byddai •yntau yn dyner ac yn dra amgeleddgar o honi. Clywais mai gwraig dduwiol yd- oedd ; ni chefais banes fod iddynt blant. Parhaoild cyfeillgarweh neillduol rhwng Syr J. Philips a Mr. Jones tra y bu Syr John byw; ac y mae lle i feddwl fod boneddigeiddrwydd y gŵr hwnw wedi ei addurno à gwir dduwioldeb. Mae yn fy Cyf. xiu. meddiant lythyr wedi ei ysgrifenu ganddo at Mr. Jones, a ddengys feddwl Uawn o ddifrifwch a duwioldeb. Heblaw Llau- ddowror a Llandilo, yr oedd yn gweini- dogaethu yu achlysuiol yn Llanllwch, yn agos i Gaerfyrddin. Yr oedd Llanllwch yr amser hwnw yn mcddiant un Mr. David Jones, ŵyr iddo, a thrwy hyny y byddai yn gweinidojraethu yno. Tan ei weinidog- aeth yn Llanllwch y cafodd Miss Bridget Vaughan, merch y Derllysg, yn mhlwyf Merthyr, wedi hyny Mrs. Bevan o Lacham, ei dwyn i ddwys feddwl am hethau byd arall, ac i ymofyn am wir grefydd. Ỳr oedd hi o deulu parchus, ac yn ferch lan- deg sjBwyrol. Gwedi iddi briodi Arthur Bevan, o L-------, byddai yn myned bob Sabboth naill ai i Landdowror neu i Lan- dilo, i wrandaw ar Mr. Jones ; ac er nad heb wawd a gwaradwydd yn canlyn, eto glynodd wrth hyny tra y bu ef byw ; a bu cyfrinach neillduol dduwiol ìliyngddynt droslawer o flynyddoedd. Enwogrwydd Mr. Jones fel gweinidog yr efengyl, a ddaeth ag ef dan sylw rhai o aelodau y Gymdeithas anrhydeddus yn Llundain, a elwir Cymdeithas i daenu yr Efengyl mewn parthau pellenig ; .a barnas- ant ef wedi ei addasu yn neillduol i'w anfon yn genad i blith yr Indiaid, a thaer erfyniwyd arno i gyrnlnçryd y gorchwyl pwysig hwn mewn llaw, fel y mae yn eglur oddiwrth lawer o lythyrau ysgrifenedig, ac ar gael wedi ei farwulaeth. Cydsyniodd à'u dymuniad, a dechreuodd ymbarotôi i'r gwaith. Beth a'i llesteiriodd i fyned sydd i mi yn anhysbys; tebygol iddynt ganfod yr angen mawr-oedd am lafurwr ffyddlawn o'i fath yn nhalaeth Cymrti dywyll. Beth bynagoedd yr achos, eglur yw, mai ewyll- ys Rhagluniaeth oedd iddo aros i lafurio yu mb,Iith y Cymry tlodion ac anwyboduB. Am effeithiau gweinidogaeth Mr. Griff» ith Jones yn ei ddechreuad, nid oes genyf nemawr o hanes. Tjbiaf, wrth ei lytbyr- au yn fy meddiant, mai lled dywyll oedd ei amaryffredton am wirioneddau yr efengyl a threfn yr iechydwriaeth, yn ei gychwyn- iad. Amlyga yuddynt lawer o ddwys ystyriaeth a difrifwch sobr, ond yr oedd ei