Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyp. XIII.] TACHWEDD, 1854. [Riiif. 155. HAMAN A MOBDECAI. GAN Y PAECH. D. ItEES, LLANGYNIDR. Haman, ab Hammadetha, o hiliogaeth Ag;ig, yr Amaleciad ; Mordecai, ab Jair, ab Simei, ab Cis, cefnder Esther. Piant y gaethglud oedd Esther acyntau.neu o hil- iogaeth y rhai a ddygwyd yn gaeth i Ba- bilon. Yn hanesyddiaeth y bodau hyn, canfyddwn bersonau a phethau rhyfedd wedi ymgyfarfod ; eu gosod yn eu priodol leoedd, a rhoddi i bob un ei waith, a gyf- ansodda, ni a feddyliwn, ddernyn pwysig, cywrain, a dyddorol. Cyd-gyfarfyddiad y rhai hyn a roddodd dro cyflym i olwyn Rhagluniaetli, yr hyn a effeithiodd wared- igaeth hynod i'r Iuddewon, yr hon a ym- saethodd allan megis o grombil dinystr, yn ddisymmwth &c annysgwyliadwy. Yr oedd wedi myned yn dywyll iawn ar yr Iuddewon yn awr ; pob un yn tybied ei fod mewn perygl bywyd. Gwaeth oedd y cyfyngder hwn, nâ'r un hynod a blin hwnw y bu eu tadau ynddo rhwng Piahi- roth a Baalsephon; oblegid nid oedd eu cyflwr hwynt wedi ei hollol benderfynu y tro hwnw. Gwir, fod Pharaoh yn dy wed- yd, " Awn, erlidiwn, goddiweddwn, a rhanwn yr yspail;" ond mor wir â hyny, yr oedd Duw Israel wedi rhoddi deg dyrnod iddo cyn hyny, a phob un wedi ei daro yn gyd-wastad â'r llawr. Ond Israel yn awr fel defaid i fyned i'r lladdfa bob un ar ddydd neillduol, a hyn i fod yn ol pender- fyniad anghyfnewidiol Persia. O, gwmwl dû dychrynllyd, yn crogi uwchben y genedl ddewisedig! a dacw ef yn hollti ; ond, syndod! arllwysodd fendithion ar yr Iudd- ewon, a melldithion ar eu gelynion, yr hyn a achosodd waredigaeth i'r naill, a dystryw i'r lleill. Beth effeithiodd hynl Diau mai llaw anweledig Duw yn troi yr olwyn. Pri- odol dywedyd, '• Ò'r Arglwydd y mae hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni." Ond yr offerynau oedd ganddo yn gwneyd hyn yw pwnc ein hymchwil presenol, adyma nhw, —Fasti y frenines,—Esther y gaethes,— Jbradwriaeth Bigthan a Theres yn erbyn y brenin,—Haman yr Amaleciad, gwr o an- rhydedd yn y llywodraeth,—Mordecai yr Iuddew,-— ac Ahasferus neu Xerxes freniu ; Cyf. xhi. dyma y rhai oedd i chwareu eu rhan yn y dratna fawr. Ust! y mae ar ddechreu,— i ddechreu ar ddiwedd y wledd. " Yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, gwnaeth y brenin wledd i'w holl dywysogion a'i weision, cadernid Media a Phersia, er ar- ddangos iddynt ei gyfoeth, a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydíerthwch ei fawredd." Gwledd fawr ara chwe mis a fu, a'r saith niwruod diweddaf, "dangos- odd i'r mawrion a'r bychain, y llèni gwyn- ion, gwyrddion, a rhudd-gochion, wedi eu cylymu â llinynau sidan, ac â phorphor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor; y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster,' a jasinet; yr hyn bethau oedd yn nghyntedd gardd palas y brenin." Yfent wiu yn helaeth, o'r llestri aur; pob un yn yfed a fyuai, a'r pryd y raynai. Djdd olaf y wledd a ddaeth, — calon y brenin oedd lawen gan win,—efe a benderfynodd der- fynu y cwbl mewn mawredd. Tybiai, er cymmaint o bethau gogoneddus a welsent, fod y tlws penaf heb ei ddangos. Fasti dêg a siriol, yn ei gwisgoedd urddasol gor- wych, a fyddai yn ogoniant ychwanegol, a thra rhagorol i'r un mawr blaenorol. Dy- wedodd wrth y rhai oedd yn gweini ger ei fron,—Mehuman, Bistha, Harbona, Big- tha, ac Abagtha, Zether, a Charcas,—am gyrchu y freniues Fasti o flaen y brenin, yn y freninol wisg a'r goron, i ddangos i'r bobloedd ac i'r tj wysogion ei glendid hi. Ni wnaeth ond llefaru, cyn iddynt gy- chwyn, a mynegi y gorchymyn, ac yno yr oeddent yn barod i weini iddi ar ei dyfod- iad ; ond, er eu mawr syndod, yn gorfod dychwelyd hebddi. " Beth yw hyn 1" fel pe dywedasai Fasti, ,lchwe mis wedi myned heibio, y wledd ar ben, ac heb gnel un gorchymyn o'r fath hyd yn awr! Rhaid mai nid y brenin a achosodd hyn, ond y gwiu a berodd hyn yma. Pa le y bydd fy ngweddeidd-dra fel gwraig, os rhoddaf fy hun yn wrthddrych sylw miloedd sydd wedi eu cynhyrfu gan win, a phwy a ŵyr beth fydd y canlyniadau ! Diamrnheu y byddaf yn anwylach gan y brenin, wedi 2t