Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XIV-] MEHEFIN, 1855. [Rihf. 162. COFIANT MR. JAMES WILLIAMS, FELIN-LAN, TN AGOS I AEBEETH, SWYDB BENFItO. Mae banes gweithrediadau angeu ar wroniaid Seion yn y ílwyddyn 1854, yn darogan rhyw aroser rhyfedd iawn,oblegid " y eyfiawn a symudir cyn amser drygfyd ;" canys ynddi^ collasnm amryw o'n gwein- idagion douiolaf; do, a niíeroedd o'n di- aconiaid ffyddlonafî Y ddwy eglwys fed- )ddiedig, gyda'r agosaf i'w gilydd yn Nyfed, a'r ddwy o dan ofal gwèinidogaeth- ol yr un gweinidog, a gollasant ddiacon- .aid ag 'nad yn fuan y eeir eu tebyg. Yr anwyl Mr. Jones, o Garmine, o eglwys y Ffynon, a Mr. James Wiìliams, o'r Felin- I.an, o eglwys Glanrbyd.. Ymadawodd y hrawd Williams â'r fuchedd hon, ac o ran (i enaid cyfiawn, a aeth i wynfyd diddar- i )d y saint, ar y ôrned o Fedi diweddaf, yn 47 mlwydd oed.gan aduel gweddw dyner i idaru ar ei ol, ynghyd â chwech o amddif- uid, at ba rai yr ychwanegwyd un arall yn mhen ychydig amser, ac nid yw yr benaf ond deg mlwydd oed ; Barnwr y gweddw- on, a Thad yr amddifaid, a edrycho yn drugarog arnynt o'i breswylfa santaidd. James Williams oedd fab i John a Mary Williams, o Shippin, pa rai ydynt aelodau heirdd gyda'r Bedyddwyr yn Ngharmel, lle y mae ei dad hefyd yn ddiacon er ys blynyddau lawer. Fe'l hyn cafodd ein hanwyl frawd ei "hyfforddi yn mhen ei ffordd," a mynych gydnabyddai siamplau da a chynghorion dwys ei rieni gyda diolchgarwch a phle3er; ond er hyny, ni chawn i'n brawd feddwl cael diogelwch ar gefn yr hen system Abrahamaidd a gredir gan lawer o'n cydwladwyr, ond cawn ef yn foreu yn ymofyn am grefydd bersonol yn ngoleu gair Duw. Gwran- dawai, yn ei ddjddiau bachgenaidd, yn Ngharmel, gydag astudrwydd mawr. Gweinidogion y lle, y pryd hwnw oeddynt yr eiddo Rhydwilym, sef yr enwogion Thomas Jones a John Llewelyn, pa rai sydd wedi cyrhaedd eu hetifeddiaeth nefol, CYF. XIV. ac y mae eu coffadwiiaeth yn barchus yn yr anial. Y Thomas Jones hwnw a saf- odd fel cedrwydden fawr gref heb ei siglo gan groeswyntoedd Sandemaniaetl) yn y gogledd, yw yr un a ddysgodd ein haiiwyl frawd James Williams yn egwyddorioui pur yr efengyl. Oni fuasai llaw er o'n dar- j^gpwj'r'jjn f'alch o'r anrhydedd hon ! Ond ní fu addysgyr enwog Jones a'i gynnorth- swywyr, fel gwerth yn nwylaw ft'yíiaid gan withddrych ein cofiant, oblegid cawn iddo godi y groes a dilyn Ci ist ýn y bedydd, yn Ngharmel, pan yn ddeunaw mlwydd oed. Amser hyfr\d yw hwn i ddewis crefydd, pan y mae y cof yn fywiog, a'r serclu3dau yn dyner. Symudwyd ef gan Ragluniaeth y nef i'r Felin-Lan, pryd y cymmerodd ei aeiodiaetii yn Nglanrhyd, er cysur mawr i'r frawdoliaeth yno. Bu yma yn aelod cyson â'i broffes am 14 mlynedd, wyth o ba rai a wasanaethodd yn y swydd ddiaconaidd ; ac nid llawer o'i ragorach a adawodd ar ei ol trwy holl Gymru, ar lawer o ystyr- iaethau. Yr oedd yn gymmydog caredig ac hael- ionus i'r tlawd, i'el nad oedd neb i ddy- oddef caledi yn ei ardal os deuai ef i wybod ara dano. Yr oedd, fel gwr hael, yn dych- ymmygu haelioni, ac fel ei Dad nefol, yn edrych am le i drugarhau. Fel cyfaill, gallasai dyn ymddiried iddo yn fwy nag i fiíoedd. Nid oedd yn ddyn i wenieithio, ond yr oedd yn wrthddrych o ymddiried mawr. Yr olwg gyntaf oedd y í'wyaf anttafriol i'r dyeithr, ac yna buasai yn gwella wrth ymarfer ag ef. Fel Cristion, yr oedd yn ddidwyll a ffyddlawn. Meddai ar ddeall da yn y gair, ac fel y cyfryw yr oedd yn deall pregeth yn rhagorol, ond nid aml y gwiandawai yn feirniadol, ond fel dyn yn ymofyn lles oddiwrth Dduw. Yr oedd nid yn unig yn Gristion deallus, ond yr oedd hefyd yn Gristion diwyd. Ei ymdrechion crefyddol