Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MARW-BESTR. 359 Hydref, a rhybydd i gael ei roddi, os bydd unrhyw un yn dewis cael ei arholi yn yr iaith Seisnig. Y Moddion Gyhoeddus.—Nos Lun pregethodd y Parch. K. Lumley ; nos Fawrth yn Engedi, y Parchn. 'Emrys Evans, Cotten Hall, a Dr. Hughes, Liverpool. Prydnawn dydd Mercher ar y maes, y Parchn. G. Ellis, B.A., Bootle, a Dr. Hughes, Liverpool. Dydd Iau am chwech o'r gloch y boreu, yn Moriah, y Parch. D. Harries, Chicago ; yn Engedi, y Parch. R. Vaughan Griffiths, Ohio ; yn Siloh, y Parch. D. C. Evans, Rhyl. Ar y maes am ddeg y Parchn. Joseph Thomas, Carno, a Dr. Owen Thomas, Liverpool; am ddau, y Parchn. Hugh Jones, Liverpool, a Dr. Harries Jones, Tre- vecca ; ac am haner awr wedi pump, y Parchn. John Lewis, Caerfyrddin, a Joseph Thomas, Carno. ME. WILLIAM M6BGAN (y BAEDd), ABEEDAE. Ar ol cystudd inaith a phoenus, hunodd yn dawel yn yr Iesu yr anwyl a'r duwiol Mr. William Morgan, Aberdar. Yr oedd yn ad- nabyddus fel bardd tra galluog, ac ystyrid ef yn un o'r englynwyr mwyaf llithrig a natur- iol a feddai y genedl, ac yn Gristion gloyw. Cafodd eglwys Bethania, i ba un y perthynai, a'r lle yn gyffrtdinol, golled ddirfawr yn ei ymadawiad. Yr Arglwydd a fyddo yn amddi- ffyn i'w weddw drallodedig. ME. DAVID CLEMENT, ABEETAWE. Dyma un eto o fiaenoriaid Capel Crugglas, Abertawe, wedi gorphen ei yrfa ddaearol, ac wedi huno yn yr Iesu, sef Mr. l>. Clement. Yr oedd yn un ffyddlon a duwiol yn ceisio gwlad, ac yn ddyn " Heb neges dan y ser Ond 'mofyn am ei Dduw." Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus, pan y siaradodd amryw o weinidogion. Teimlir colled a hiraeth ffawr ar ei ol. Ei ddiwedd oedd tangnefedd. ME. EOBEET WILLIAMS, TANYBWLCH, CLYK0G. Wedi marw a'i gladdu, y gwr anwyl yma. yn 8Ü mlwydd oed. Bu yn fiaenor tíÿddlon a dichlynaidd flynyddau lawi3r yn Golan, ac Wedi hyny yn Capel Uchaf, Clynog. Gorph- wys yr hyn sydd farwol o hono yn Capel Helig. Meddwch i'w lwch byd ganiad yr udgorn. ME. JOHN LL0YD, TBEWENFBON, GLANEHYD, PENFBO. Wele un arajl o rai rhagorol y ddaear wedi noswylio, yn 82 mlwydd oed. Yr oedd yn ddyn hynawa, yn gymydog caredig, yn Grist- ion gloew, ac yn flaenor ffyddlon—'agos a bod " yn berffaith heb ddiffygio niewn dim." Cafodd grefydd pan yn bur ieuanc, yr hon a gadwodd yn ddilychwyn hyd ei fedd. Yr oedd yn un haelionus, addfwyn, a gostyng- edig. Yn ei farwolaeth cafodd yr achos yn Glanrhyd golled drom. Bu farw mewn tang- nefedd, a'i enaid yn gorphwys yn dawel ar yr " Hwn a osodcdd Duw yn Iawn." Cafodd 'ei gladdu yn mynwent Llantwd, gerllaw gwedd- ilüon ei gyfaiìl, y diweddar Barch. D. Grif- fiths. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. W. Morris, Llandudoch ; E. Bowen, a J. Griffiths, Cilgeran; a G. Morgan, Tref- draeth. Cufodd gladdedigaej.h wir deilwng. "MES. ELIZABETH WILLIAMS, MAESTEG. Nid oes ond rhaid crybwyll enw Mrs. Abra- ham Williams, Maesteg, yn nghlyw lluaws mawr o bobl, miloedd o ran hyny, îi ddaeth- ant i ryw gydnabyddiaeth â hi yn ei bywyd, na bydd ei darlun yn ymwthio o fìaen y meddwl yn y fan—ei hymddangosiad bywiog, hpinyf, hwylus, hawddgar, yn ymgyfodi o'u blaen. îsi bu odid neb yn Nghapel Tabor, Maesteg, o ddyàd ei agoriad yn 1840, hyd ddiwedd Ionawr, 1877, na phregethwr na gwrandawr, gwr llen na gwr lleyg, gwreng na bonedd, na tbynwyd eu sylw at wrth- ddrych y sylwadau yma ; oblegid yr oedd hi yno o'r braidd arbob achlysur ; ac er nad oedd yn ymhyrgar mewn unrhyw achos nad oedd yn perthyn iddi, eto yr oedd yno, ac yn tynu sylw hefyd, ond sylw fel un o ffyddloniaid y tir, fel un oedd yn gwilied yn ddyfal beunydd wrth y drysau, &c, " gan geisio daioni Jeru- salem a llwyddiant achos Duw." Cafodd allu a tbueddfryd i ddyfalbarhau byd y diwedd ; ac yr oedd yn un o ffyddloniaid hcn gapel y Maesteg-cyn hyn, pan oedd Tabor heb ei sylfaenu. Daliodd mewn cysondeb mawr nes gorphen ei hoes faith o 85 mlynedd; ac fel afal addfed wedi gollwng ei afael oddi- wrth y pren, dysgycodd i'r bedd ar ddiwedd ei thaith wedi ei digoni â " hir ddyddiau " yr addewid, ac yn ddiau wedi " gwelcd iach- awdwriaeth Duw." Yr oedd amryw nodweddau prydferth a dymunol iawn yn nghymeriad Mrs. Williams, y rhai ydynt wir deilwng o gofthad ac eful- ychiad. Wedi ei bendithio a chyfansoddiad corfforol a meddyhol cryf a bywiog, a ehael oes faith i arudangos a defnyddio y galluoedd hyn (oblegid nid oedd wedi colli y naill na'r llail o honynt hyd y diwedd), nid ar unwaith yr anghofir hwy, er ei bod weithian wedi di- flanu oddiar y ddaear. Yr oedd yn meddu ar fywiawgrwydâ mawr.—Nis gwn yn iawn pa un ai i'r corff' neu y meddwl yn benaf y perthynai hyn. Hwyrach fod y naill a'r llall yn cydweithio yn ffurfiad yr elfen yma yu ei chymeriad. Beth bynag, un felly oedd hi. Dichon fod ei chyfansoddiad corfforol yn ffafnol i hyn, gan ei bod o ffurûad ysgafn, gewynol, heb ruyw bwysau mawr o bridd y ddaear yn adeilad ei "daearol dy;" felly yr oedd ya hawddaŵ