Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE HAUWE. Rhif 207.] CHWEFROR, 1907. [Cyf. XVIII. MR. D. WILLIAMS, AROLYGYDD YR YSGOL SUL, TABERNACL, PONTYPRIDD. [gyda darlun.] Ganwyd Mr. Williams arforeu y içfed o fis Chwefror, 1862, ac fel y prawf yr hanes, gallwn ddweyd, i ddyn gael ei eni i'r byd y boreu hwnw. Enw ei dad oedd Wiiliam, a'i fam, Elizabeth; trigianent mewn ffarmdy bach o'r enw Doleu Gleision, yn mhlwyf Llandilo Fawr. Dyffryn hardd Llandeilo—a'r Tywi yn rhedeg ei gyrfa gwmpasog ar ei ffordd i'r môr, gan wasgaru bywyd i bob peth ar hyd ei glanau—oedd un o olygfeydd ei bíentyndod a'i fachgendod, a gosododd ei ddelw ar ein cyfaill, drwy ei wneyd yn ddyn eang a braf ei yspryd. Collodd ei fam pan etto ond wyth mlwydd oed. A chyn i'w ddagrau prin sychu, gwelwyd ef yn dylyn corff ei anwyl dad i'r bedd. Y colledion hyn a wnaethaat y byd hwn yn fyd tlawd ì'r bachgen naw mlwydd; ond cymmerodd rhagluniaeth dyner Duw ofal drosto, a bu yr hwn a gyfenwodd ei hun yn dad i'r amddifaid, yn dad à mam i " Myrddin " bach. Yn bum' mlwydd oedd, gwelir ef yn cyrchu tua'r Ysgol Sul a gynnelid mewn ffarmdy o'r enw Bancylan, cartref taid Mr. Llewelyn Williams, A.S., a gynnrychiola Sir Gaerfyrddin yn y Senedd heddyw. Cangen oedcí yr Ysgol hon o Llansadwrn, felly deugain mlynedd i'r mis hwn y dechreuodd ein gwrthddrych ddyfod i gyssylltiad â'r Ysgol Sul, sefydliad sydd wedi parhau i ennill ei serch a'i edmygedd parhaus. Efe oedd Arolygydd Ysgol y Tabernacl y flwyddyn ddiweddaf, a« ail-etholwyd ef gydag unfrydedd a brwdfrydedd i fordwyo y llong am y flwyddyn hon etto. Cafodd ein cyfaill y manteision addysg goreu oedd i'w cael y cyfnod hwnw, a gwnaeth yntau y defnydd goreu o honynt