Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YK HAUWE. Rhif 208.] MAWRTH, 1907. [Cyf. XVIII. MISS MAGGIE ANN JONES, RAMOTH, HIRWAUN. [gyda darlun.] Gyda phleser mawr cyflwynwn ddarlun o'n chwaer ieuanc. Merch ydyw i'r brawd llednais a diymhongar Mr. Rees Jones a'i ddiweddar wraig, Mrs. Anne Hughson Jones. Bu ei mam farw, gan adael tair o ferched bach i ofal Duw a'u tad tyner. Chwaer hynaws ac anwyl gan bawb ydoedd y fam, ac yn un o ffyddloniaid Ramoth. Mae y tad heddyw yn arweinydd y gân, ac yn un o'r brodyr goreu yn yr eglwys. Hana y ferch felly o stock hynod o dderbyniol; ac nid rhyfedd ei bod wedi uno â chrefydd er yn ieuanc, Drwy gryn anhawsder, mae ei thad wedi rhoddi iddi ysgol drwy ei hoes; ac erbyn hyn, llawenydd genym nodi iddi basio ei Matriculation tua dau fis yn ol, a hyny cofier cyn ei bod yn 18 oed. Wedi dewis y rhan dda, para mae ein chwaer ieuanc anwyl, i ddatblygu ei thalentau, ac i'w cyssegru at wasanaeth yr Ysgol Sul fel athrawes gyda'r dosparth ieuangaf. Er ys blynyddoedd, mae yn dyfod allan yn anrhydeddus yn yr Arholiad—ac yn 1905, aeth i'r Undeb a daeth allan with Honours; ac eleni etto yr un modd. Yn wir, gellir dweyd fod llwyddiant ein chwaer yn nghyd ag ychydig eraill o'n ffyddloniaid, yn ystod y blynyddau diweddaf, wedi codi gweithgarwch ein Hysgol Sul i sylw uchel yn y Gymmanfa. Nìd pob merch ieuanc yn meddu ar y cymhwysderau fel athrawes sydd barod fel hon i wasanaethu ei Duw a phoeni gyda'r plant ar y Sul. Mae genym yn aml rai parod a ffyddlon, ond druan o honynt, heb yr un rhith o gymhwysder, a thyna hi wedi hyny. " Fools rush where angels fear to tread." Pwy all ddirnad gwerth brodyr a chwiorydd ffyddlon a chymhwys i gyfranu addysg yn yr Ysgol Sul ? Ond bydd iddynt eu gwobr, fe ddichon nid yr ochr hon i'r bedd, oblegyd mae byd ac eglwys hefyd yn aml yn rhy ddall i weled eu gwerth hyd nes eu colli. Eiddunwn i Miss Jones bob llwydd- iant, a bendith gyfoethocaf y nef drwy ei hoes i wneyd gwaith mawr dros ei Gwaredwr. Hirwaun. Glaneirw.