Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUWR. Rhif 209,] EBRILL, 1907. [Cyf. XVIII. MISS PHCEBE ROGERS A MISS JANE DAVIES» CYMMER, GLYNCORRWG. [gyda darlun.] Mae yn dda genym osod gerbron darllenwyr Yr Hauwr, ddarlun o'r ddwy chwaer ieuanc, Miss Phcebe Rogers a Miss Jane Davies ; y ddwy yn aelodau gweithgar iawn a ffyddlon yn Eglwys Jerusalem, Cymmer, Glyncorrwg. Ni bu dwy chwaer ieuanc deilyngach erioed mewn eglwys na hwy. Gweithiant yn ddystaw a dihunangeisiol fel pawb sydd yn carn yr achos goreu yn ddilys. Un o arwyddeiriau eu bywyd yw— " Neb ond Iesu, dim ond Iesu, Iesu'n unig, lesu gyd, Iesu'r groes, a chroes yr Iesu, Y'nt yn well na goreu'r byd. ' Merch i Dafydd a Sarah Rogers, Cymmer, yw Phcebe; collodd ei mam pan oedd yn ieuanc iawn; ond mae ei thad yn ddiacon delfrydol yn eglwys y Cymmer yn bresennol. Mae yn un o dri o blant, hi yw yr henaf; ac ar farwolaeth ei mam gorfu iddi ymgymmeryd a dyledswyddau y cartref; ac mae pawb sydd wedi bod yn eu thŷ yn gwybod am ei glan- weithdra a'i charedigrwydd dihysbydd. Mae llu o engyl y weinidogaeth yn gwybod yn dda trwy brofiad am garedigrwydd Dafydd a Miss Rogers. Amddifadwyd hi o lawer o fanteision addysg oblegyd colli ei mam mor ieuanc ; ond y mae wedi ymdrechu yn deilwng i ddiwyllio ei hun, yn enwedig mewn gwybodaeth Ysgrythyrol a theuluaidd. Ymunodd â chrefydd pan yn bymtheg oed; bedyddiwyd hi gan yr anwyl ddiweddar Barchedig J. L. Jones, Glyncorrwg» ac oddi ar hyny hyd heddyw mae wedi bod yn aelod gweithgac iawn a ffyddlon yn eglwys y Cymmer.