Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜWE. Rhif 212.] GORPHENAF, 1907. [Cyf. XVIII. DAVID THOMAS ROBERTS, B.A. [gyda darlun.] Un o'r 25ooedd yn derbyneu graddau yn Nghaerdyddy tymhor diweddaf ydyw y gwr ieuanc uchod. Mab ydyw i Mr. Richard Roberts, Cyfreithiwr, Caernaifon, ac y mae o du ei fam yn ŵyr i'r diweddar bregethwr, David Thomas, Llangefni. Ganwyd ef yn mis Rhagfyr, 1883. Y mae yn un o ddeiliaid yr Ysgol Sul er pan yn gallu cerdded, ac wedi sefyll ei harholiad blynyddol o'i sefydliad hyd y ddwy flynedd ddiweddaf, a bron bob blwyddyn wedi bod yn mhlith y rhai a anfonwyd i'r Undeb. Yn 1903 ac 1904 cafodd y wobr am fod y goreu yn Nghymru dan ugain oed. Yn Ysgol Ramadegol Caernarfon, dan ofal Mr. J. Lewis, M.A., y derbyniodd ei addysg foreuol, ac oddi yno symmudwyd ef i'r Ysgol Ganolraddol ar ei sefydliad, yr hon oedd y pryd hwnw yn meddu y Cymro twymgalon, a'r ysgolor gwych, Mr. J. Trevor Owen, M.A., yn awr o Abertawe, yn brif athraw. Tra yn yr ysgol hon pasiodd David Arholiadau Junior a Senior y Central Welsh Board, a chafodd dair Honours Certificate yn olynol. Yn 1902 bu yn llwyddianus i ennill y brif ysgoloriaeth yn Ngholeg prif Athrofa Bangor, am dair blynedd, a'r un pryd cafodd County Exhibition o £20 am yr un cyfnod. Pasiodd y gwahanol arholiadau yn Mangor, ac yn 1905 ennillodd y gradd o B.A. gydag anrhydedd, yn yr ail ddosparth yn Groeg. Yn yr un flwyddyn ennillodd y Pozvis Prize, gwerth tua £y o lyfrau, y rhai sydd yn gyfrolau gwerthfawr. Eleni, cafodd anrhydedd mewn Lladin a Ffrancaeg, ac y mae y Senate wedi rhoddi iddo hanner y Dean Edward's Prize, a swm arall o arian i aros yn y coleg flwyddyn etto, i fyned yn mlaen am Arholiad yr M.A. y flwyddyn nesaf. Y mae y brawd ieuanc yn aelod yn Eglwys Caersalem, wedi ei fedyddio rai blynyddau yn ol, gan y Parch. Owen Davies, D.D. Yn uwch yr elo; mae dysgwyliad Cymru yn fawr oddiwrth ei bechgyn sýdd yn cael manteision mawrion yr ysgolion a'r colegau presennol. Gobeithio y bydd yr ychydig gofnodion syml hyn yn sym- byliad i rai o fechyn ein Hysgolion Sabbothol a chanolraddol. Cyfaill.