Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUWE. Rhif 213.] AWST, 1907. [Cyf. XVIII. Parch. EDMUND PRITCHARD, BETHEL, CAERGYBL [üYDA DARLUN.] Ganwyd gwrthddrych ein pennawd yn Llanfechel, Mòn, Mai 21, 1859. Enwan ei rieni oeddynt William a Margaret Pritchard. Yr oedd ei dad y pryd hyny yn aelod gyda'r Methodistiaid, ond nid oedd y fam, ac o herwydd hyny, gwrthododd y Methodistiaid yn Llanfechell ei daenellu, pan yn fabau, er fod parotoadau wedi eu gwneyd ar gyfer yr amgylchiad, a rhyw wraig garedig wedi myned â'r baban i'r capel. Ar ol hyn, perswadiodd y Person i'r fam fyned ag ef i'r Eglwys, y gwnai ef ei fedyddio. Felly fu; ond yn hynod iawn, bu raid i'r fam ddianc o'r Eglwys heb ei fedyddio, gan fod y pleutyn wedi tori allan i wylo yn y fath fodd fel nad oedd dichon aros i fewn. Yr oedd y fam o herwydd y ddau dro uchod, wedi penderfynu fod rhagluniaeth yn troi yn erbyn y baban, ac yr oedd mewn petrusder mawr. Yn gwybod y pethau hyn, aeth hen weinidog gyda'r Annybynwyr ati i'r tŷ i'w chyssuro, a chymmerodd y baban yn ei freichiau, ar lawr ý tŷ, a chyflwynodd ef mewn gweddi (nad annghofiodd y fam hi byth) i Dduw, yna rhoddodd y baban yn ol i'w fam, a dywedodd wrthi am ei fagu, ac wrth wneyd hyny, ei bod yn magu pregethwr. Cymmerodd y fam lawer o drafferth i'w ddysgu, pan yn ieuanc, a'i hoff waith oedd dysgu rhanau o'r Beibl i Edmund, a phob Sabboth fe a'i clywid yn adroddi pennodau, a Salmau yn yr Ysgol, ac yn fynych iawn o flaen y bregeth yn oedfa'r hwyr. Gwelir felly, er pan yn ieuanc ei fod wedi cyssegru ei fywyd i wasanaeth Iesu Grist a'i achos, a sugno yn helaeth o ddidwyll laeth y Gair. Derbyniodd yntau y rhan fwyaf o'i addysg ddyddiol y» Ysgol Frytanaidd Cemaes, am na fynai ei ddysgu yn Catechism yr Eglwys Sefydledig, yn Ysgol Genedlaethol LÌanfechell. Ya nghwrs amser symmudodd i Gaergybi, a gwelwyd yn foreu