Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUWE. Rhif 215.] HYDREF, 1907. [Cyf. XVIII. MR. CHARLES GIBBON, CAERFFILI. [GYDA DAIÍLUN.] Ganwyd gwithddrych ein hysgrif yn Nghaeiffili, Chwefror I7eg, 1880. Trydydd mab ydoedd i Charles ac Adelaide Gibbon, Tonyfelin road, Caerffili. Yr cedd wedi bod" yn ■werthwr lluniau am flynyddau o dan Mr. George \\'illey, Thornbank, Caerffili. Mae y fam yn aelod o eglwys Tony- felin er ys blynyddau, ac wedi gweithio allan ei phroffes yn anrhydeddus. Mae ei bywyd dichlyhaidd wedi cael argraff ragorol ar ei phlant, fel y maent i gyd yn aelodan ígyda'r eithriad o un o honynt) selog o'r nn eglwys a'i mam a'u brawd ymadawedig. Bedyddiwyd Charles Gibbon gan y diweddar Barch. J. P. Davies, Ion.27ain, yn y flwyddyn 1808, a bu farw Awst i8fed, 1906, yn 2Öain oed. Fel dyn ieuanc yr oedd yn hynod o dduwiolfrydig; a gellir dywedyd am dano fod " ei ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd, ac yn niyfyrio yn ei gyiraith Ef ddydd a nos." Yr oedd ìhyw bertrwydd crefydd- oí yn nodweddu bêr oes ein brawd hoff. Teimlai llawer hen wr yn swil yn ei bresennoldeb gan ei fod yn hyddysg fel ìlenor Beiblaidd ac yn gyfoethog o hanesyddiaeth eglwysig. Hoff oedd ganddo ddyfynu gweithiau awdnron hen a diweddar, fel yr oedd fel seren iachar yn ffurfafen yr eglwys. Ffyddlon a gofalus oedd o'r Cyrddau Wythnosol, yr Ysgol Sul a'r Gobeithlu. Medrai gymmeryd rhan yn y gwahanol gyfarfod- ydd yn y ddwy iiith gyda choethder neilìduol. Teimla yr eglwys yn hiraethus o'i golli. Ymaflwyd yn ei gyfansoddiad gan y gymmalwst pan oedd tua 2^ain oed, a dyoddefodd gys- tudd blin. Hunodd yn dawel yn yr Iesu Awst i8fed, 1906. Huna mewn tawel annedd, —hyd fore'r Adferir o'r ilygredd ; Codir ef o garebar bedd I rodio mewn anrhydedd. Caerffili. Castellybd..