Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUWE. Rhif ai6.] TACHWEDD, 1907. [Cyf. XVIII. MR. HUGH ERYRI JONES, GARN DOLBENMAEN. [gyda darlun.] Ddarllenydd hoff, wele i ti ddarlun cywir o'r brawd anwyl gyrhaeddodd y fath safle anrhydeddns yn yr Arholiad diweddaf. Tystiai yr Arholwr ei fod nid yn unig yn oreu, ond yn amlwg ar y blaen i bawb. Athraw yn Ysgol Ddyddiol y Garn ydyw, a Phregethwr Cynnorthwyol erbyn hyn. Safodd ddau Arholiad yr un mis, a daeth allan yn yr Arholiad Cymmanfaol i gael dechreu pregethu, fel yn yr Undeb, yr uchaf o lawer. Y mae yn wr ieuanc llednais a diymffrost. Er cymmaint ei Iwyddiant nid yw byth yn ymbesgi ar wynt. Gwyr yn dda beth yw ennill y gamp mewn degau o Eisteddfodau. Ystyrir ef gan lawer o feirniaid gwych yn ddiguro ar gerdd-goffa. Cipiodd hefyd gadair y dydd o'r blaen. Y mae yn gerddor da, a gall ddatganu yn swynol. Dylai wneyd yn dda yn y pwlpud. Tystia gwyr cyfarwydd ei fod yn datblygu yn siaradwr campus. O ran ei ddyn oddiallan nid yw ond gwr cymharol fyr, corff crwn, cydnerth, a'i gerddediad yn ysgafn a chwim. Fel y gwelir y mae ei ogoniant a'i nerth o'i ysgwyddau i fyny. Y mae ei dalcen yn werth yr enw, nid oes awgrym o slìp yn agos iddo. Y mae yn gyfaill pur, nid dyn yr amgylchiadau mo hono. Symmuda yn wyliadwrus yn ei ymchwil am gyfeillion, ac wedi iddo adwaen yn drwyadl nid oes cilio yn ol. Y mae ef a'i weinidog (Parch. T. Idwal Jones) fel Dafydd a Jonathan, a chydnebydd mai i'w Weinidog y mae i ddiolch am ei orfodi i dd'od allan. Y mae iddo wraig a dau o blant mor gerddgar ag yntau. Edrycha yr eglwys yma a'r wlad yn mlaen at gael y cyfle, cyn hir, i'w longyfarch ar ei fynediad i fysg gweinidogion blaenaf ei Enwad. Nid rhaid i'r aur wrth liw, nac i'r glân wrth sebon. Cyfaill.