Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYNNIWEIRYDD, üTîjpîîijmmattí) pr Ysgoîton £a&ftotf)oL Hiiir. viii. AWST, 1834. Cyf. 1. %?®w$mTwm%&®®m< ETHOLEDIGAETH AMMODOL, AC EWYLLYS RYDD. Gan fod rhai yn uchel haeru fod y Gyfun- drefn o etholedigaeth ammodol, marwolaeth Crist dros bob dyn yn ddiwahauiaeth, gallu dynion i gredu ac edifarhau yn efengylaidd, a'r possiblrwydd i gwympo oddiwrth ras, yn dra chymhwys i ddwyn yn mlaen anrhydedd y perffeithiau dwyfol, a chysur a sancteidd- rwydd dynion; efallai mai priodol a fyddai ymholi a chwilio, a yw y pethau hyu felly. Ai anrhydedd i Dduw yw tybied ei fod yn analluog i drefnu cyullun ei holl waith o barth i fodau rhesymol, cyn dechreu arno ?— tybied ei fod yn analluog i drefnu unrhyw gynllun, ond lle y byddo ewyllys rŷdd grë- edig yn gynghorydd iddo ?—neu ddwyn un- rhyw gynllun i weithrediad, ond fel y caflb gauiatâad a chynnorthwy ewyllys rŷdd ? A ydyw yr athrawiaeth houo yn dwyn anrhyd- edd i Dduw, yr hon a'i golyga wedi creu ewyllys rýdd mewn bodau rhesymol, yr hon sydd tu hwnt i'w allu i'w chadw yn ddybyn- awl arno ei hunan, neu i'w Uywodraethu i atteb unrhyw fwriad pennodol. Pa le y mae annewidioldeb Duw, os yw efe yn ddaros- tyngedig i gyfnewid ei drefniadau yn ol fel y rhyngo bodd i ewyllys rhydd dynolryw ymagweddu ? Ai hyn yw safiad ei gynghor a gwneuthuriad ei holl ewyllys ef ? Pa ley mae F l * y cyffredinolrwydd haelfrydedd, o'r hyn y bostia pleidwyr yr athrawiaeth Arminaidd gymaint, onis darparodd efe Iachawdwr i gythreuliaid cystal ag i ddynion, a rhoddi iddynt hwy, y rhai ydynt ei grëaduriaid, nid llai ardderchawg na dynion, orsedd gyd- raddol i eu hiachawdwriaeth dragywyddol. Pa le yr oedd ei ddoethineb ueu ei gyfiawu- der ef, a pha le yr oedd ei gariad at ei Fab tragywyddol, pan yr ymhyfrydai yn ei ddryll- io ef, ac yn gwneuthur ei enaid ef yn aberth drosbechod holl ddynolryw;—dros bechodau y rhai oeddynt y pryd hyny yn uffern yn di- oddef y gosp ddyledus am eu pechodau, a thros fyrddoedd o rai y gallai un hollwybod- ol ragweled mai eu dilyn yno a wnaent; ueu wneyd iddo roddi ei enaid i lawr ar y dyb- iaeth annhebygol y byddai i'r rhai ydynt yn y cnawd, yn eu cyflwr natur, ryngu bodd Duw â'u ffydd a'u hedifeirwch ? Pa le y mae ei ddoethineb, ei allu, ei dynerwch, a'i dir- iondeb tu ag attom ni, os ydyw ei ddewisiad o honom i fywyd tragywyddol, marwolaeth ei Fab drosom, ac ymrysouiadau ei ^sbryd â ni, yn ymddibynu am eu heffeithiad llesol tu ag attom ni, ar yr ammod anhyall, o fod Pr galon yr hon sydd fwy ei thwyll na dim, yn ddrwg rliobaith; y meddwl cnawdol, yr