Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYNNIWEIRYDD, <£f)p2r&mimiít!) î?t Yögoltoii â?aöfcotf)ol. Rhif. x. HYDREF, 1834. Cyf. 1. TRAETHAWD AR Y PRIODOLDEB A'R ANGENRHEIDRWYDD O WEDDIO AM LWYDDIANT YR EFENGYL. Y newydd goreu a swniodd erioed yn nghlustiau dyn syrthiedig yw un yr efengyl; heb hwn ni buasai un newydd arall o werth dim iddo. Ymlygru fwy-fwy y buasai yn ei drueni! a marw ! marw ! fuasai byth, byth yn ei erlid, ac yn yinaflyd ynddo heb obaith ganddo am ymwared! Ond yn yr efengyl, y dygir bywyd ac anllygredigaeth i oleuni— yr agorir drws gobaith, ac y cynnygir teyrn- as nef iddo drachefn ! Ei swm yw Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio, yn fywyd, yn Waredwr, ac yn Iachawdwr i bechadur. Ond yn 1. Sylwn ar ddymunoldeb llwydd- iant yr efengyl. 2. I brofi gösodiad y testyn, sef yr angen- rheidrwydd o weddio am dano. 3. I atteb gwrth-ddadìeuon y gosodiad. Ond yn 1. Dymunoldeb y llwyddiant. Y mae yn ddigon i beri i'r anialwch a'r anghyf- anneddle lawenychu o'i blegid, ac i'r di- ffaethwch flodeuo fel rhosyn,—i'r mynydd- oedd a'r bryniau floeddio canu, a holl goed y maes guro dwylaw. 1. Y mae yn ddymunol yn ei berthynas â Duw. Y mae yr efengyl yn dwyn gogon- iant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. A phwy ond gelyn Duw a ewyllysia i'r fath ddar- 'ì O pariaeth,—i'r fath olud o ddaioni,—i'r fath lifeiriant o dosturiaethau a charedigrwydd gaei eu dibrisio a'u gwrthod. Sicr yw nad oes un pechod yn dangos mwy o ddirmyg i Dduw, na gwrthod yr efengyl. Na dim yn rhoddi mwy o ogoniant iddo,—yn fwy bodd- äol a dymunol ganddo, nac ydyw derbyn yr efengyl. Hyn ydyw ewyllys Duw, credu o honom yn yr hwn a anfonodd efe. 2. Y mae yn ddymunol hefyd gyda golwg ar ddynion sydd yn cael y llesâd. Ac mewn gwirionedd peth iddynt hwy yw efengyl; eu gobaith, eu bywyd, eu pob peth yw efengyl. A'u mantais a'u daioni hwy yn unig yw eu llwyddiant; gan hyny y mae yn rhaid ei fod yn ddymunol. Yr ydym dan rwymau fel crëaduriaid rhesymol i ddymuno yn dda i'n gilydd,—i gydymdeimlo a'n gilydd, ac i gyd-lawenâu yn Uwyddiant ac Iachawdwriaeth ein gilydd. Ac am lwyddiant yr efengyî, y mae ynddo ei hun yn peri y cysur a'r gorfoledd mwyaf ì bob dyn da,—sain cân a moliant yn mhyrtli merch Si'on, a Uawenydd yn ngwydd angèl- iou Duw. Ac y mae yn amhëus genyf bod yn ngallu neb sydd yn feddiannol ar deimladau dynol, ac heb fod yn elyn i dded- wyddwch dynion, beidio dymuno fod bun-