Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

-^^rítt çr ÿsÿol SML8+- Cyf. I.] CHWEFROR, 1895. [Rhif 2. Y FRIALLEN A'R GWLITHYN. fH TFÎ '-'r&rT/ìpî© OÇ^) (£* fe^2^ü~J^j 'ÉÊ \jS. î?!:'i N boreu, syrthiodd Gwlithyn gloew ar ddalen agored y Friallen, gan ei phlygu bron hyd y llawr. " Hawyr anwyl," ebe'r Friallen,. " yr wyt yn drwm." " Er mwyn pobpeth," meddai y Gwlithyn, "paid a fy ysgwyd ymaith; y mae gymaint yn well i fyny yma nag i lawr acw." ____________ " Druan o honot," ebe'r Friállen, "chei di ddim syrthio os gallaf fi dy gynal." " Pe buaswn i yn dy le di, Friallen," meddai Llygad y Dydd a safai gerllaw, "chymerwn i mo fy ngwasgu i'r ddaear fel yna." " O, wel I" atebai'r Friallen, " rhaid i ni, wyddost,. gymeryd trugaredd ar ereilí, ac nid meddwl am ein cysur ein hunain yn unig." Aeth y dydd rhagddo yn araf: llewyrchai yr haul, cynyddai y gwres, sj'chai y ddaear, ac erbyn tri o'r gloch y prydnawn yr oedd Llygad y Dydd yn dihoeni, yn gwywo, ac yn pengrymu, tra y safai y Friallen yn syth, gan edrych yn sionc i gyfeiriad y ffurfafen glir. " Beth yw y rheswm," gofynai Llygad y Dydd i'r Friallen, " dy fod ti mor dirf a byw, tra yr wyf fi yn wywedig a gwan ?" Ar hyn, yr Awel, wrth fyned heibio, a'i hatebodd drwy sisial, " Yr oeddet ti, boreu heddyw, yn ysgornio'r Friallen am wneud caredigrwydd a'r Gwlithyn. Y Gwlithyn hwnw sydd wedi ei chynorthwyo i ddal y gwres mawr sydd wedi profì mor niweidiol i ti. Nid yw gweithred dda byth yn myned yn ddiwobr; canys tra fyddom ni yn garedig a chymwynasgar i ereill, yr ydym yn pentyru bendithion arnom ein hunain."