Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. RHAGFYR, 1865. $itgjnad djwrfls Gfrat " A minnau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun."—Ioan xii. 32. GAN Y PARCH. R. J. JONES, M.A., RHAN II. Fe ddywedir fod edrych ar y sarph brês yn iachâu pob un a frathid; ond cofiwn, yr oedd cenedl Israel wedi dywedyd, Pechasom, cyn hyn; yr oeddynt wedi edifarhau o herwydd tuchan yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw: ac y mae edifeir- wch a diwygiad yn angenrheidiol arnom ninau hefyd cyn y byddom yn dderbyniol gyda Duw. Nid oes dim un swyn yn y groes a dry'r pechadur yn sant, ac a rydd ymwared iddo oddiwrth arteithiau cydwybod euog ar unwaith. Y mae'n rhaid i'r hen arferiadau drwg i gael eu ííi-arfer nes eu lladd yn raddol o un i ud; ac y mae yn rhaid i arferiadau da i ddyfod i weithrediad yn eu lle. Nid oes dim un sham a wna'r tro. Y mae'n anmhosibl cuddio'r galon aflan fel nas gellir ei gweled ganddo Ef, yr hwn ydyw chwiliwr y galon a phrofwr yr arenau. Sut ynte y mae'r Iesu yn " tynu pawb ato ei hun ? " Y mae yn eu tynu -trwy ei farwolaeth, yr un modd ag y mae yn eu tynu trwy ei fywyd, trwy eu perswadio i adael eu pechodau a byw yn rhinweddol. " Gwyn eu byd y rhai trugarogion." " Gwyn eu byd y rhai pur o galon." " Gwyn eu byd y tangnefeddwyr."