Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. MAI, 1867. Parhad o'r rhifyn diweddaf. Capodd y dywysogaeth yn ddiau golled fawr na buasai Mr. Dafis wedi ymddangos yn fynychach fel awdwr. Yn ystod cystudd ysgafn a gafodd pan tua phedair-ar-ddeg-ar-ugain oed, cyfieithodd draethawd a elwir " Bywyd Duw yn Enaid Dyn," o waith Henry Scougal, i'r Gymraeg. Ynghylch yr un amser ymddangosodd erthygl o'i waith yn Saesoneg yn yr " Analytical Review," mewn ffordd o feirniadaeth ar fardd- oniaeth Dafydd ab Gwilym. Nid ydym yn gwybod am ddim arall o'i eiddo a ymddangosodd mewn rhyddiaith. Fel bardd yr oedd ef yn llwyddiannus neillduol. Y mae ei enw fel cyf- ieithydd " Marwnad Gray " yn ddigon adnabyddus drwy holl Gymru i bawb ag sydd yn gwneyd unrhyw sylw o farddoniaeth Gymreig. I'n tyb ni, nid oes dim cyffelyb iddi yn ein hiaith, oddieithr " Marwnad Esgob Heber" gan Blackweli. Ym- ddangosodd crynodeb o'i weithiau barddonol, dan yr enw " Telyn Dewi," mewn cyfrol deuddeg-plyg yn cynwys 219 o dudalenau, cyhoeddedig gan Longman, Llundain, 1824; ond y mae'r Delyn yn brin iawn yn bresenol. Gwneir i fyny yng nghylch haner y gyfrol o'i gyfansoddiadau gwreiddiol ef ei hun; y rhan arall sydd gyfieithiadau o ddarnau dewisol gan rai o feirdd goreu y Saeson. Y mae yn ddigon eglur ei fod ef wedi astudio rheolau y mesurau caethion yn drwyadl, a'i fod yn eu deall yn dda; er nad oedd ond anaml yn caethiwo ei