Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y LLENOR CYMREIG. "GOREU ARF—ARF DYSG." Cyf. III. IONAWR, 1884. Rhif 9. ANYMDDIRIEDAETH YN EIN GALLUOEDD YN NOD O DDOETHINEB. Y mae yn arwydd sicr o synwyr da ein bod yn betrusgar 0 hono. Y pryd hwnw, ac nid cyn hyny, yr ydym yn tyfu yn ddoeth, sef pan yn darganfod mor wan ac annoeth ydym. Y mae dealltwriaeth holîol berffaith yn anmhosibl. Yr hwn sydd yn dynesu agosaf at hyny ydyw yr hwn sydd ganddo synwyr i ddarganfod, a gostyngeiddrwydd i gydnabod ei anmherffeithderau. Y mae gwyleidd-dra bob amser yu eistedd yn brydferth ar ieuenctyd:—y mae yn gorchuddio lluaws o feiau, yn dyblu dysgleirdeb pob rhinwedd a ym- ddengys fel yn eu cuddio, gan fod perffeithderau dynion fel y blodau hyny sydd yn ymddangos yn fwyaf prydferth pan y byddo eu dail wedi eu crebachu ychydig, a?u plygu i fyny, na phan y maent yn eu llawn fiagur, ac yn arddangos eu hunain heb unrhyw ddirgeliad i'r golwg. Y mae rhai o honom yn lled hoff o wybodaeth, ac yn dueddol i osod gwerth arnom ein hunain mewn unrhyw gynydd yn y gwybodaethau; ond y mae un wyddor neu wybodaeth ag sydd o werth mwy na'r oll o'r lleill, hyny yw, y wybodaeth o fyw-yn dda, yr hyn'a crys pan y bydd taíodau yn peidio, a