Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AEWEINYDD. Oyf. III., Rhif 23. CHWEFROR, 1880. Pris Cetniog. Y TEBYGOLEWYDD A'E GWAHANIAETH EHWNG Y LLYTHYE AT Y EHUFEINIAID A'R LLYTHYE AT Y GALATIAID. Y Llythyr at y Rhufeiniaid a'r Llythyr at y Galatiaid ydynt y cyntaf a'r pedwerydd yn y rhan hono o'r Testament Newydd sydd yn cael ei hystyried yn athrawiaethol, fel y maent wedi eu lleoli yn y cyfieithad Cymraeg; ond pe cawsent eu lleoli yn eu trefn amseryddol, yn ol Dr. Lardner, ac ereill, buasai y Llythyr at y Galatiaid y trydydd, a'r un at y Rhufeiniaid yn bummed o'r rhai a ysgrifenwyd gao Paul. Ond gan na ddywedir fod yr holl ysgrythyr wedi ei drefnu yn ogystal a'i roddi gan ysbrydoliaeth Duw, nid ystyriwn ei fod yn angenrheidiol dweyd rhagor fan yma am amseryddiaeth y ddau Lythyr o dan ein sylw. Er gweled y tebygoírwydd a'r gwahaniaeth sydd rhwng y ddau Lythyr, y mae yn ofynol i ni wybod rhywbeth am sefylh'a y cred- inwyr yn y lleoedd gwahanol yr ýsgrifenai yr apostoi atynt, yr hyn a fydd yn fantais i ni ganfod y tebygolrwydd rhwng yr hyn a ddywed wrthynt, yn nghyd a'r gwahaniaeth rhwng ei gyfar- wyddiadau iddynt. Nid yw yn bossibl gwybod yn gywir beth ydoedd sefyllfa y credinwyr yn Rhufain pan ysgrifenodd Paul ei Lythyr atynt, am nad yw yr ysgrythyrau santaidd yn rhoddi unrhyw wybodaeth bendant am y dull na'r amser yr aeth yr efengyl gyntaf i blith y Rhufeiniaid: nid yw y syniad mai Pedr a'i pregethodd gyntaf yn ddim amgen nà dydhymmyg gwag o eiddo y pabyddion, heb un sail sicrach iddo na thraddodiad ansicr ac anmhenderfynol, yr hyn a'i gwna yn hollol annheilwng o grediniaeth. Y farn gyffiredin ar hyn, a'r debycaf o fod ^n gywir ydyw, mai'r cyf- ryngau a ddygodd yr efengyl gyntaf.i Rufain, ydoedd y dyeithr-