Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE ARWEINYDD. Cyf. III., Ehif 25. EBRILL, 1880. Pris Ceiniog. Y DIWEDDAR BARCH. R. MORGAN (RHYDDERCH AB MORGAN), BETHEL, ABERDAR. Y mae y dyn fyddo wedi cyrhaedd arbenigrwydd yn ei fywyd yn honi hawl i gael dadleni ei oes gerbron y byd ar ol ei farwolaeth. I bobl ieuainc nid oes un rlian o lenyddiaetli mor ddyddorol ac adciladol â bywgraffìad dyn a arweiniodd fywyd a fu yn ogoniant i Dduw, ac yn esiampl dda i ddynion. Arncan pob bywgraffiad ddylai fod i ddysgu yr oes sydd yn codi trwy esiamplau fyddo yn werth i'w hefelychu. Dylid bod yn onest wrth gofnodi adgofion o'n hanwyliaid sydd wedi ein gadael. Y niae bywgraffìad i fod yn arddangosiad teg o gytnmeriad y dyn, fel y niae darlun cywir i fod o'i berson. Nid niolawd yw bywgraffìad i fod, ond arddangosiad. ffyddlon o'r peth ydoedd cymmeriad y gwrthddrych niewn gwirionedd. Dylid sengi yn ysgafn ar lwch y rhai ymadawedig, ond ni ddylid gwyn- galchu gormod ar ei beddau. Y mae llawer iawn o wastraff wedi bod ar ddoniau wrth organmol y meirw. Mae yr ysgrifen- wyr yn rhoddi ffrwyn i'w hyawdlcdd a'u dychymmygion i ganmol eu rhagoriaethau, eu dysgeidiaeth uchel, eu bywyd pur, a'u ham- canion cywir, nes peri i ni amheu pa un ai dynion mewn cnawd oeddynt—yn rhaid dyoddef fel ninnau—neu bresylwyr gwìad y purdeb a'r gogoniant tragywyddol. Y mae pethau fel hyn yn ddigon i greu amheuaeth yn meddwl y darllenwyr am gywirdeb vr ysgrifenwyr. Un o'r pethau mwyaf dyddorol i'r meddwl ieuanc ydyw hanes cywir y dynion hyny a fu yn ymdrechgar a defnyddiol yn eu dydd a'u cenhedlaeth—y maent eto yn llefaru doethineb ac addysg i ni o ddistawrwydd gwaelodion y beddau. Un o'r dosbarth hwnw yw gwrthddrych yr hanes yma.