Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AEWEINYDD. Cyf. III., Ehif 28. GORPHENAF, 1880. Pris Ceiniog. Y DIWEDDAE BAECH. J. H. JONES, TON. Mor chwith i ni ydyw ysgrifenu y gair diweddar yn nglyn â'n hanwyl frawd a'n cymmydog agos! Or braidd y gaílwn sylwedd- oli y peth; ac wrth geisio ei gyhoeddi, y mae ein chwithdod yn cynnyddu fwy-fwy. Byddai yn anfaddeuol 'ynom beidio gosod gerbron ein darjlenwyr grybwyìlion am Mr. Jones, pe byddai dim ond ei gyssylltiad asros â'r Arwfjnydd o'i gychwyniad, a'i ífydd- londeb a'i ofal fel goruchwyliwr iddo Y mae augau yn greulon wrthym fel cnwad y flwyddyn hon: er nad oes ohoni etto ond chwe mis wedi rhedeg allan, y mne o leiaf wyth neu naw o'n gweinidogion wedi eu cymmeryd ymaith! Ceir yn eu mysg amryw yn gymharol ieuanc; ac y mae rhywleth i ni yn ddyrus a thywyll yn y syniad fod dynion fei Mr. Jones, vn ngryra eu dyddian a'u defnycídioldeb, ac ar hanner fagu eu teulu- oedd, yn cael eu symmud, tra y mae hen dadau ydynt wedi marw er's blynyddau i bob defnyddioldeb, ac yn boen a blinder bellach iddynt eu hunain yn cael eu gadael! "Oymniylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef;" ond gadawer i ni hefyd gofìo y rhan ddi- weddaf o'r adnod—•' Cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc." Nid ydym ni yn alluog i esbonio ond rhanau bychain iawn o'i ffyrdd ef, ond cawn wybod ar ol hyn. Ganwyd Mr. Jones mewn pentref o'r enw Glasinfryn, yn ardal Bethmaca, gerllaw Bangor Fawr yn Ngwynedd, ar y 23 o Awst, 1840; felly, buasai yn dcJeugain mlwydd oed yn Awst nesaf. Cafodd ei fagu yn un o lanerchau dymunolaf Gwalia, yn nghanol rhamantaidd a gwylltineb mynyddoedd yr Eryri, a phrydferthwch swynol a thawel y Menai a'i hamgylchoedd—yn ngolwg Mon— mewn mangre lle y ceir natur a chelfyddyd ar eu heithaf; credwn fod gan y golygfeydd y megir dynion ynddynt, ddylanwad mawr ar eu nodweddion. Gallasai sylwedydd ganfod yn Mr. Jones ddy-