Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

puiiPtrD aTMiw. Rhif 60] RHAGFYR 1891. [Cvf V. "GRYM EI ADGYFODIAD EF." GAN Y PARCH. JOHN WILLIAMS, (jí.C), BRYNSIENCYN. "Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddi- oddefiadau ef, gan fod wedi fy nghyd-ffurfio a'i farwolaeth ef." Phil. iii. 10. ' N y cyd-destyn ni gawn rai o athrawiaethau pwysicaf y grefydd Gristionogol yn cael eu cyflwyno i'n sylw fel gwirioneddau profiad yr Apostol Paul. Hyn sydd yn rhoddi cyfrif am symlrwydd yr ymadroddion a arferir yma: iaithcalon ydyrrt, nid iaithrheswm; iaith Cristion, nid iaith duwinydd. Ac eto, y maent yr un mor eang a dwfn os nad mwy felly na'r ymadroddion athrawiaethol a arferir gan Paul a duwinyddion eraill i ddynodi yr un gwirioneddau. "Cyfrif pobpeth yn dom ac yn golled fel yrynillwyf Grist," dyna argyhoeddiad : " A'm cair ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun," dyna gyfiawnhad : " fel yr adnabyddwyf ef," dyna sancteiddhad. Chwi welwch fod pob peth mawr bywyd y Cristion wedi ei grynhoi yma mewn ychydig frawddeçau syml a byrion : dyna ydynt, dyn yn darfod ag ef ei hun ; dyn yn cael ei hun mewn un arall, a bywyd yr un arall hwnw yn dod yn eiddo iddo ef. Yn rhinwedd y profiad mewnol hwn o wirioneddau yr efengyl, y mae Paul yma yn gallu gosod allan, mewn goleuni clir, amcan mawr crefydd; oblegyd mae credo crefyddol, yn gystal a bywyd crefyddol eang ac iach, yn anmhosibl heb brofiad dwfn o wirioneddau crefydd. I lu o ddynion hanfod crefydd yw dyogelwch, nid ydynt yn gallu cyrhaedd dim pellach nadweyd"A'm cair ynddo ef;" darpariaeth rhag dinystr, yswiriaeth ddwyfol rhag tân, yw yr oll o grefydd y rhai hyn. Rhaid cael profiad dyfnach i ddyrchafu amoan crefydd i'w safle. ogoneddus ei hun, " fel yr adnabyddwyf ef." A dyma yr amcan uchaf sydd yn bosibl i ddyn, ad- nabod Duw a bod yn debyg jddo, Felly profiad dwfn o wirioneddau yr