Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 70.] HYDREF, 1892. [Cyf. VI. preaetb í'r Bobl 3euaínc GAN V PARCH. WILLIAM PRYDDERCH, (M.C.,) PONTARDULAIS. (Ysgrifenwyd wrth ei gwrandaw.) " Pa fodd y glanha llangc ei lwybr? wrth ymgadw yn ol dy air di." Salm cxix. 9. SALM FAWR, fel y gwyddoch y gelwir y Salm, a fyddai i ddim heb ofni ein bod yn ei galw hi felly am ei bod dipyn yn fwy na'i chwiorydd yn Llyfr Duw. Ond mesurwch y Salm y ffordd a fynoch, y mae yn Salm anferth o fawr. Cymerwch yr hyd, y lled, neu y dyfnder, y mae yn Salm fawr iawn. Y mae yn Salm fawr am fod ei thestyn yn fawr. Salm Gair Duw ydyw y Salm, Salm y Beibl ydyw. Cofiwch fod yma 176 o adnodau, ac y mae 176 o weddau ar Air Duw i gyfarfod angen dyn yn y Salm ; ac y mae wedi ei rhanu yn 22 o ranau, ac yn ein cyfieithiad ni y mae un o'r llythyr- enau Hebreig uwchben pob rhan, ond pe cawsem olwg ar y Salm yn ei diwyg wreiddiol, chwi welsech fod pob llythyren sydd uwch- ben y rhanau yn ein cyfieithiad ni yn dechreu pob adnod yn y rhan hono drachefn. Beth yw peth fel yna, meddwch chi, a bar- odd i ysbrydoliaeth gymeryd benthyg hyny o gelfyddyd i droi Salm o fawl i Feibl Dduw ? Ond pan yn siarad fel yna, cofiwch mai Salm i Feibl bach yr Iuddew ydi hi, y Beibl bach, syml, tywyll, aneglur oedd yn nwylaw yr Iuddew ar y pryd ydyw y Salm hon. Pa fath Salm gawsem gan ddyn o dduwiolfrydedi y Salmydd hwn pe cawsai ef sefyll uwchben y Beibl mawr sydd genym ni heno, y gyfrol eglur, oleu, orphenedig yma sydd yn ein llaw ni yn awr— pa fath Salm gawsem ni, gai i ni gael y fath Bryddest ddiguro am