Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PTJXiPT7X> OTMRIJé: Rhif 74.] CHWEFROR, 1893. [Cyf. VII • matur £ôlw*>0 Críst* GAN Y PARCH. OWEN PRYS, M.A., Prifrthraw Coleg Trefeccà. (Wtdi ei hysgri/enu wrth eì gwrandaw.) ' AE yn debyg eich bod yn disgwyl yn y fan hon i mi draethu ar Natur Eglwys. Ond yr wyf wedi sylwi yn, y blynyddoedd diweddaf fod cryn lawer o ryddid yn cael ei gymeryd gyda'r testyn—Natur Eglwys. Ae yr wyfj finau am gymeryd cryn lawer o ryddid boreu heddyw gyda< golwg ar y testyn, a thraethu ar y nodwedd hono yn unig, a berthyn i Natur Eglwys Crist—y nodwedd syddyn caei. ei dwyn i sylw arbenig yn y cyfarfod hwn—ei bod yn hanfodol yn Eglwys Genhadol. Ac yr wyf am alw sylw at un neu ddau o bethau ag y mae hyny yn ei gynwys : y ffaith fod Eglwys Crist yn. Eglwys Genhadol, ac yn honi hawl i wneyd deiliaid iddi ei hunan o holl. genhedloedd y ddaear ; yn honi hawl i gael pob dyn lle bynag y mae, of dan ba amgylchiadau bynag, pa genedl, pa lwyth, pa iaith bynag, y mae Eglwys Iesu Grist yn honi hawl i wneyd pob dyn yn ddeiliad iddi ei hun. Y commissiwn mae wedi ei gael oddiwrth ei Phen ydyw y geiriau sydd i'w gweled yn Efengyl Marc xvi. 15 adnod, " Ewch i'r hollfyd, a phregethwch yr Efengyl ibob creadur." Y mae Eglwys Crist yn honi hawl i gael pob dyn yn ddeiliad iddi ei hunan. Y mae hyny yn cynwys, yn tybio dau beth, ac at y ddau beth : hyny yr syî am gael eich sylw. Mae yn tybio, Yn Gyntaf, Fod ar bob dyn angen Crefydd. Ac yn Ail, Mai Crefydd ein Harglwydd Iesu Grist ydyw yr unig Grefydd fedr foddloni yr angen hono. * Traddodwyd yn Nghyfarfod Ordeinio Mr. Edward Williams, Corwen, Çenhadwr i Fryniau Jghassja, yn Nhyfarfod Misol y Ba^a, Ionawr yyàà, 1893,