Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 76.I EBRILL, 1893. \Cxv. VII 2>Blanwa& SanctcíbMol (Sobaitb, GAN Y PARCH. J. MACHRETH REES, PENYGROES. -----------:o:----------- ' Ac y mae pob un sydd ganddo y gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro ei hun, megis y mae yntau yn bur."—1 Ioan iii 3. "V ~K 7""RTH ymdrin a'r gwahanol ddoniaua fwynhawyd gan V y yr Eglwys Gristionogol am dymhor yn nechreu ei hanes, dywed yr Apostol Paul fod tri " yn aros," ac un o'r tri yw gobaith. Yr un modd a'i <jydras ffydd, y mae swyddogaeth gobaith yn gynwysedig yn benaf raewn dwyn y dyfodol i ddylanwadu ar y presenol. Ffydd sydd yn sylweddoli y dyfodol, trwyddi hi yr ydym yn dyfod yn ymwybodol o fodolaeth y pethau na welwyd eto. Os nad yw ffydd yn meddu gallu i greu, mae yn meddu y gallu agosaf at hyny —gallu i ddargar.fod. Llefara ei " bydded " uwchben tryblith y dyfüdol, ac ar unwaith dyna fyd newydd yn ymgodi gerbron yr enaid; ac yn y byd newydd hwn a sylweddolir,—a ddarganfyddir— gan ffydd y preswylia gobaith gan mwyaf. Ond nid yw cylch gweith- rediad gobaith mor eang a'r eiddo ffydd. Medr ffỳdd sylweddoli ufîern yn gystal a sylweddoli paradwys : mae ei llygad treiddgrafí hi yn canfod y gwae, y cadwynau, a:r pryf ni bydd marw, yr un mor eglur ac y cen- fydd yr orsedd, y deyrnwialen, a'r gwisgoedd gwynion. Ond nid oes a wnelo gobaith ond yn unig a'r da, y dymunol^ a'r prydfeith. Mae yn troi yrnaith ei lygad rhag edrych ar ddrwg. Meddylier am y pethau y sonia yr Ysgrythyr am danynt yn gysylltiedig â gobaith, ac fe welir mai pethau dymunol ydynt i gyd,—gotaith heddwch, gobaith bywyd tra. gwyddol, gobaith gogoniant" Duw. Pethau hawddgar, pethau hyfryd i feddwl am danynt, yw y pethau y myn gobaith aros yn eu cymdeithas.