Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif 78. MEHEFIN, 1893. [Cyf. VII. Cçrbaefcoiafc p üBçwço ucbaf pn bawlio Ibunan^obíögpblaetb* GAN Y PARCH. W. MORRIS, F.R.G.S., (Rhosynog). TREORCI. Am hyny os dy law neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymaith, a thafl oddiwrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus nag a chenyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tan tragwyddol. Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafì oddiwrthyt: gwell yw i ti yn un- llygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad genyt dy daflu i dân uffern."—Matthew xviii. 8 a 9. 'N amgylchiadau llefariad y testyn darganfydda yr Ath. raw Mawr yn y disgyblion dri pheth sydd yn ymddad. blygu i raddau peryglus. Rhaid atal y cyfryw ddad- blygion neu bydd y canlyniadau yn niweidiol i gymer- iad a gwasanaeth y disgyblion. Cafwyd engreifftiau ynddynt o uchelgais aflonydd, cydymgeisiaeth afreolus, a chenfigen gas. Yn hytrach na cheryddu a chondem- nio ei ddisgyblion yn gyhoeddus cymerodd yr Arglwydd Iesu Grist fantais ar ei ddyfodiad i dy yn Capernaum i'w dysgu wrthynt eu hunain. Hwyrach y byddai ffordd Iesu Grist yn ddoethach yn aml i ninau. Mae eisiau mwy o " ddysgu yn y ty," a llai o dynu y lleni oddiar a chyhoeddi gwendidau yr eglwys Y cwestiwn cyntaf ofynodd yr Iesu i'w ddisgyblion wedi myned i'r ty ydoedd, " Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ífordd ?" Mae yn debyg fod yna dwrw ac ymddadleu brwd wedi bod ar y ffordd. Yn lle ateb Iesu, " A hwy a dawsant a son." Erbyn dyfod i wyneb yr Athraw cywilyddient adrodd yr achos. Nid oeddent yn awyddus i hysbysu yr ymddiddan, " Canys ymddadleuasant a'u gilydd