Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PÜLPÜD CYJWRÜ. Rhif 119.] TACHWEDD. [Cyf. X. GALLU A GRAS CRIST. Gan yr Hybarch. W. EVANS, Aberaeron. meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt. A dedwydd yw yr hwn ni rwystrir ynof fi." Mat. xi. 4—6. 'AE ein Harglwydd, yn y geiriau hyn, yn anfonyn ol gyda chenhadon* Ioan Fedyddiwr atebiad i'r hyn yr ymofynai am dano. Yr oedd Ioan y pryd hwn yn y carchar. Nis gallasai fyned ei hunan at yr Iesu i gael boddíonrwydd yn nghylch y mater y pryderai am dano. Anfonodd ddau o'i ddysgyblion ato i ofyn, " Ai tydi yw yr hwn sydd yn dyfod, neu ai un arall yr ydym yn ei ddysgwyl ?" Gofyniad eithaf priodol. Yr oedd Crist i ddyfod, ac wedi dyfod y pryd hwnw, yn ol tyst- iolaeth Ioan ei hun,—derbyniasai efe dystiolaeth o'r nef am dano. Yr oedd wedi ei weled; a mwy, bu yn ymddyddan ag ef, a dan- gosodd efi'w ddysgyblion, gan ddweyd, " Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Cwestiwn mawr y dyddiau hyny oedd hwn, ac ni allesid gofyn un pwysicach. Ond paham y gofynai Ioan y fath gwestiwn ? Ni a gawn yn y geiriau blaenorol mai mewn canlyniad i'r son am weithredoedd Crist y darfu iddo anfon y fath gwestiwn at yr Iesu. Mae hyn yn aw- grymu mai methu gweled cysondeb yr oedd yn y ffaith o'i garch- ariad ef â bod ei Arglwydd yn cyflawni y cyfryw weithredoedd nerthol., Paham y goddefai i'w genad rTyddlon fod yn garcharor? Paham na ddangosai ei ajlu drwy ei waredu ef o'r çarçhar ? A