Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PÜLPÜD CYJIRÜ. Rhif 124.] EBRILL, 1897. [Cyf. XI. " Dyoddefiadau a Marwolaeth Crist." Gan y Parch R. H. EVANS, Cambria, Wisconsin. " A thywysog y bywyd a laddasoch." Act. III. 15. YDDWN ar adcgau, pan yn cyfeirio at farwolaeth Crist, yn dweyd fod Person Dwyfol wedi dyoddef a marw, a bydd dynion y dysgwylid iddynt wybod yn well yn barnu ei fod yn ddywediad eithafol, os nid cableddus, a chilio gyda braw oddiwrth y syniad íod Duw wedi dyoddef a marw, er fod hyn yn wir, ond nid yn wir yn y modd yr edrychant hwy arno. Ni all y Duwdod, neu Dduw per se ddyoddef a marw. Y mae yn Dduw byw, "yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwol- deb." Pe gwnai y Duwdod farw, fe elai y greadigaeth fawr an- fesurcl yn deilchion ar unwaith, a gwnai pob bywyd ddarfod am byth. Mae y pryder a deimlir gyda golwg ar y pwnc yn codi oddiar anwybodaeth am natur undeb dwy natur yn mherson y Cyfryngwr, a bod y natur. ddynol yn y Person, ac felly fod pob gweithred o eiddo y natur ddynol yn weithred y Person Dwyfol o angenrheidrwydd. Y mae yn sicr nad oedd yn weithred person dynol, ac nad yw y natur ddim ond mewn person. Mae y testyn yn rhan o anerchiad Pedr wrth yr Iuddewon, er egluro pa fodd yr iachesid dyn cloff o groth ei fam. Dywedai i'r wyrth gael ei chyflawni yn enw Iesu, Mab Duw. Dywedir dau beth am dano na ddywedir am neb arall : 1. Ei fod yn Dywysog y bywyd : ymyl y ddalen, Gwneuthurwr bywyd; Cyfìeithiad