Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PÖLPDD CYJWRÜ. Rhif 130.J HYDREF, 1897. [Cyf. XI. Duw yn siarad a Dyn. Gan y diweddar Barch. W. EVANS (W). (Monwyson). ' Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith. a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab." Heb. i. 1. AE awdwr y llythyr ardderchog hwn yn anhysbys. Mae beirniaid galluog wedi amrywio yn eu gol- ygiadau o barthed i'r awdwr. Yr oedd yr eglwysi dwyreiniol o'r ail ganrif i lawr, yn enwedig yn < Alexandria, yn edrych ar y llythyr fel gwaithPaul, 'ond ei fod wedi defnyddio Luc i'w ysgrifenu, neu Clement, enw yr hwn oedd yn " Llyfr y Bywyd." Yn nechreu y drydedd ganrif, cododd Tertulian yn Affrica, a haerodd mai Barnabas, cydymaith Paul, oedd ei awdwr. Yr oedd eglwysi Ewrop yn dadleu dros iddo fod yn ddienw, yr awdwr yn anhysbys, am y tybient nad oedd Paul yn awdwr ond i 13 o lyth- yrau y Testament Newydd. Yn fuan wedi hyny daeth yn farn gyffredin, yn enwedig yn amser y diwygiad Protestanaidd, mai Apostol y Cenedloedd oedd wedi ei gyfansoddi ; ond yr oedd Erasmus, Calfin a Luther, yn ameu hyny. Barn Luther ydoedd, mai yr hyawdl Apolos a'i ysgrifenodd—golygiad sydd wedi cael ei amddiffyn gan amryw feirniaid ar ei ol. * Mae rhai pethau yn profi mai Paul ydyw ei awdwr, ac mae yn y llythyr rai rhesymau yn ymddangos yn erbyn hyny. Gallwn ddweyd hyn fodd bynag, pwy bynag gyfansoddodd y llytbyr ardd„ erchog hwn, yr oedd Paul yn rneddu pob cymhwysder i wneyd y gwaith. Nid oedd yn ol i neb am alluoedd. Nis gellir meddwl am neb wyddai fwy amr Iuddewiaeth, na neb allasai ddangos yn well ragoriaeth Cristionogaeth ar hen grefydd ei dadau. Tybia y